Cod Ymarfer Da ar gyfer micro ddarparwyr yn Sir Ddinbych

Micro ddarparwr yw busnes bach, annibynnol a lleol sydd â llai nag 8 o weithwyr neu wirfoddolwyr cyfwerth â llawn amser, sy’n cynnig gwasanaethau neu gymorth sy’n helpu pobl i wella eu hiechyd neu eu lles.

Mae’r Cod Ymarfer Da yn pennu’r safonau y mae gofyn i ficro ddarparwyr weithio tuag atynt a hunan-ddatgan yn eu herbyn. Fe’i bwriedir fel arweiniad i ddarparwyr a phobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth. Nid yw’n cynnwys cymeradwyaeth, achrediad na chadarnhad o gydymffurfiaeth gan Gyngor Sir Ddinbych.

Gall micro ddarparwyr gynnig ystod eang o gymorth i helpu i fodloni anghenion unigol, gan gynnwys:

  • Cefnogaeth yn y cartref: gofal personol, coginio, glanhau, siopa, mynd ar neges, cwmni;
  • Cefnogaeth i fynd allan o gwmpas yn eich cymuned: gweithgareddau, diddordebau, therapïau, dysgu sgiliau newydd, gwasanaethau dydd, cefnogaeth gan gymheiriaid.

Gweler y Canllaw Cymorth i gael rhagor o wybodaeth ynghylch micro ddarparwyr a defnyddiwch y cyfeiriadur i chwilio am ficro ddarparwyr lleol yn eich ardal chi.

Sylwer: Nid yw Cyngor Sir Ddinbych yn cymeradwyo nac yn achredu’r micro ddarparwyr yn ei gyfeiriadur, ac felly ni all sicrhau boddhad nac ansawdd unrhyw wasanaethau a ddarperir.  Ni all CSDd chwaith dderbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd am y wybodaeth a ddarperir gan unrhyw ficro ddarparwr yn y cyfeiriadur hwn.

Safonau yn y Cod Ymarfer Da

Mae’r micro ddarparwyr yng Nghyfeiriadur Sir Ddinbych wedi ymrwymo i’r safonau canlynol:

Cyfreithiol

  • Cytuno i gydymffurfio â’r holl ofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol sy’n ofynnol ar gyfer micro ddarparwyr, gan gynnwys mewn perthynas ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).
  • Bod yn gwbl annibynnol o unrhyw sefydliad mwy neu riant-sefydliad.
  • Cofrestru’r busnes gyda Chyllid a Thollau Ei Fawrhydi.
  • Dylai bod ganddynt yswiriant atebolrwydd cyhoeddus ac yswiriant arall ar gyfer pob agwedd ar y gwasanaethau sy’n cael eu cynnig gan ficro ddarparwyr.
  • Dylai bod pob gweithiwr wedi mynd trwy’r gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (o fewn y 3 blynedd diwethaf).
  • Dylai bod ganddynt weithdrefnau pendant ar gyfer asesu ac adolygu anghenion cwsmeriaid yn rheolaidd, er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau sy’n cael eu cynnig yn addas ac yn bodloni eu hanghenion.
  • Dylai bod ganddynt ddogfennau canllaw ar waith ar gyfer rheoli risg, diogelwch a diogelu sy’n ymwneud â holl agweddau perthnasol y gwasanaethau sy’n cael eu darparu ar hyn o bryd.
  • Dylai bod ganddynt gontractau ysgrifenedig gyda'r holl bobl sy'n derbyn gwasanaethau a / neu eu cynrychiolwyr.
  • Deall canllawiau ar ddiogelu a sut i adrodd am bryderon
  • Dylai bod ganddynt ddogfennau polisi ar ddiogelu data (Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data)
  • Dylai bod ganddynt ddogfennau canllaw ar asesiadau risg

Ansawdd

Mae micro ddarparwyr a gweithwyr yn cadw at ‘God Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol’, Gofal Cymdeithasol Cymru (2017):  Mae saith adran iddo:

  1. Parchu safbwyntiau a dymuniadau, a hybu hawliau a diddordebau unigolion a gofalwyr,
  2. Ymdrechu i ennyn a chynnal ymddiriedaeth a hyder unigolion a gofalwyr.
  3. Hybu lles, llais a rheolaeth unigolion a gofalwyr, a hynny wrth eu cefnogi i gadw’n ddiogel.
  4. Parchu hawliau unigolion gan geisio sicrhau nad yw eu hymddygiad yn achosi niwed iddyn nhw eu hunain na phobl eraill.
  5. Gweithredu yn onest a chynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y proffesiwn gofal cymdeithasol.
  6. Bod yn atebol am ansawdd eich gwaith a derbyn cyfrifoldeb dros gynnal a datblygu gwybodaeth a sgiliau.
  7. Yn ogystal ag adrannau 1 - 6, os ydych chi’n gyfrifol am reoli neu arwain staff, rhaid i chi sefydlu’r Cod yn eu gwaith hwythau hefyd.

Proffesiynol

  • Gwerthfawrogi'r unigolion y maent yn eu cefnogi
  • Bod yn hyblyg ac yn ymatebol i newidiadau
  • Hyrwyddo annibyniaeth a dewis unigolion
  • Bod yn ddibynadwy a chyson
  • Cael eu harwain gan y sawl a gefnogir a’r hyn sydd ei angen arnynt
  • Bod yn glir a thryloyw a chynnig prisiau teg
  • Cynnal ffiniau proffesiynol gyda chwsmeriaid
  • Bod yn agored, gonest a dibynadwy bob amser
  • Cadw gwybodaeth am unigolion yn gyfrinachol
  • Dylai bod ganddynt gyfnodau rhybudd pendant ar gyfer terfynu gwasanaethau
  • Dylent ymgymryd â gweithgareddau a defnyddio cyfarpar y maent yn brofiadol, yn gymwys, wedi’u hyswirio ac wedi derbyn hyfforddiant i’w cynnig / defnyddio yn unig.

Mae’r micro ddarparwyr yn hunan-ddatgan y safonau hyn. 

Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am ficro ddarparwyr, cysylltwch â Nick Hughes, Dirprwy Reolwr Tîm Ar Ymyl Gofal, Cyngor Sir Ddinbych drwy nick.hughes@denbighshire.gov.uk neu 07747461646.

Os oes gennych bryderon ynghylch diogelu, cysylltwch â Thîm Diogelu Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion a Digartrefedd Cyngor Sir Ddinbych ar:

0300 4561 000 rhwng 8am - 6pm dydd Llun i ddydd Gwener ac 10am - 4pm ar benwythnosau a Gwyliau Banc; neu 0345 053 3116 y tu allan i’r oriau hyn.