Cyfeiriadur o Feicro-ddarparwyr Sir Ddinbych
Bwriad y cyfeiriadur hwn yw helpu pobl a’u teuluoedd sy’n chwilio am ofal a chymorth, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’n rhoi gwybodaeth am ystod o ficro ddarparwyr unigol a’r gwasanaethau a gynigir ganddynt.
Cyfeiriadur o Feicro-ddarparwyr Sir Ddinbych (PDF, 886KB)
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cefnogi unigolion i ddefnyddio rhaglen ddatblygu i’w helpu i sefydlu eu gwasanaethau eu hunain a’u rheoli. Bwriad y rhaglen hon yw meithrin sgiliau a hyder i ddarparu cefnogaeth yn y gymuned. Nid yw cymryd rhan yn y rhaglen hon yn cynnwys achrediad, cymeradwyaeth na chadarnhad o gydymffurfiaeth gyfreithiol neu reoleiddio.
Mae’r holl ficro ddarparwyr a restrir wedi llenwi hunan-ddatganiad yn ymwneud ag agweddau megis hyfforddiant a threfniadau busnes. Mae’r Cyngor yn ymgymryd â gwiriadau sylfaenol megis rhai’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ac yswiriant, fodd bynnag nid yw’r ffaith bod darparwyr wedi eu cynnwys ar y cyfeiriadur yn golygu cadarnhad o gydymffurfiaeth gyfreithiol neu reoleiddio llawn.
Mae’n bwysig gwybod nad yw’r ffaith bod micro ddarparwr wedi’i gynnwys yn y cyfeiriadur hwn yn golygu eu bod wedi cael eu hachredu, eu cymeradwyo na’u cefnogi gan Gyngor Sir Ddinbych. Nid yw’r Cyngor yn argymell nac yn paru unigolion â darparwyr penodol.
Gall micro ddarparwyr rannu’r wybodaeth ddiweddaraf yn nodi a ydynt ar gael neu beidio, ond nhw’u hunain sy’n rhoi’r wybodaeth hon a gallai newid. Dylech gysylltu â darparwyr yn uniongyrchol i gadarnhau a ydynt ar gael ac os ydynt yn addas.
Byddwch yn prynu gwasanaethau neu gefnogaeth yn uniongyrchol gan y darparwr. Chi sy’n gyfrifol am sicrhau bod y trefniadau’n bodloni eich hanghenion ac i ddeall unrhyw oblygiadau cyfreithiol, treth neu gyflogaeth, yn cynnwys a yw’r trefniant yn un cyflogaeth neu hunangyflogaeth.
Argymhellir yn gryf eich bod yn siarad â’r darparwyr neu’n cyfarfod â nhw cyn gwneud unrhyw drefniadau, i sicrhau y gallant ddarparu cefnogaeth yn y ffordd y mae arnoch chi eisiau.
Canllaw defnyddio Micro-ddarparwr
Ni all Cyngor Sir Ddinbych dderbyn cyfrifoldeb nac atebolrwydd am y wybodaeth a roddir gan unrhyw ficro ddarparwr ar y rhestr hon ac ni all warantu ansawdd, addasrwydd na boddhad y gwasanaethau a ddarperir.
Os hoffech fwy o wybodaeth am y Rhaglen Ddatblygu, cysylltwch â Nick Hughes, Dirprwy Reolwr Tîm, Tîm Ffiniau Gofal Sir Ddinbych ar nick.hughes@denbighshire.gov.uk neu 07747461646.
Os oes gennych unrhyw bryderon diogelu, cysylltwch â Thîm Diogelu Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion a Digartrefedd Cyngor Sir Ddinbych ar: 0300 4561 000 rhwng 8am - 6pm dydd Llun i ddydd Gwener, a 10am - 4pm ar benwythnosau a Gwyliau Banc; 0345 053 3116 y tu allan i’r oriau hyn.