Etholiadau Comisiynydd Heddlu a Throseddu
Mae Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yn gyfrifol am y ffordd y mae trosedd yn cael ei drin yn eu rhanbarth.
Comisiynydd Gogledd Cymru yw Owain Arfon Jones. Mae o’n gyfrifol am ddwyn y Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru i gyfrif ar eich rhan ac yn goruchwylio sut mae trosedd yn cael ei daclo yng Ngogledd Cymru gan sicrhau bod yr heddlu yn darparu gwasanaeth da.
Mwy amdan y Comisiynydd (gwefan allanol)
Etholiadau Comisinydd yr Heddlu a Throeseddu 2021
Cynhelir etholiadau nesaf Comisiynydd Heddlu a Throseddu ddydd Iau, 6 Mai 2021.
Mae Swyddog Canlyniadau Ardal heddlu yn gyfrifol am gynnal etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu mewn ardal benodol.
Mae Colin Everett, Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, wedi’i benodi yn Swyddog Canlyniadau ar gyfer ardal gogledd Cymru yn etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu 2021.
Dyddiadau Pwysig
Y dyddiad cau i gofrestru i bleidleisio yw 19 Ebrill 2021.
Cofrestru i bleidleisio (gwefan allanol)
Y dyddiad cau i wneud cais am bleidlais drwy'r post yw 5pm ar 20 Ebrill 2021.
Cofrestru i bleidleisio drwy'r post (gwefan allanol)
Y dyddiad cau i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy yw 5pm ar 27 Ebrill 2021.
Cofrestru i bleidleisio drwy ddirprwy (gwefan allanol)
Pleidleisio
I bleidleisio mewn etholiad Comisiynydd Heddlu a Throseddu mae'n rhaid i chi fodloni’r gofynion canlynol:
- Wedi cofrestru i bleidleisio
- Yn 18 oed neu hŷn ar ddiwrnod y bleidlais
- Yn ddinesydd Prydeinig, yn ddinesydd Gwyddelig neu’r Gymanwlad.
- Yn ddinesydd yr Undeb Ewropeaidd neu’n ddinesydd tramor sydd wedi derbyn caniatâd i ddod i mewn neu aros yn y DU, neu’n unigolyn nad oes arno angen caniatâd o’r fath
- Ddim yn destun anghymhwyster cyfreithiol i bleidleisio