Refferenda

Pleidlais yw refferendwm ar gwestiwn ynglŷn â mater neu bolisi penodol. Fel rheol rydych chi’n pleidleisio ‘ie’ neu ‘na’.

Mae’n golygu bod modd i chi wneud penderfyniad uniongyrchol ar gwestiwn yn hytrach na gadael i’ch cynrychiolydd etholedig benderfynu ar eich rhan. Anaml iawn y mae’r rhain yn cael eu cynnal ym Mhrydain.

Cafodd y refferendwm UE ei gynnal ar y 23ain Mehefin 2016 yn gofyn y cwestiwn;

A ddylai’r Deyrnas Unedig barhau i fod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd neu adael yr Undeb Ewropeaidd?

 Gwelwch canlyniadau y refferendwm ar gyfer Sir Ddinbych