Etholiadau’r Senedd

Mae’r Senedd yn cynrychioli pobl Cymru. Cynrychiolir Sir Ddinbych gan 3 etholaeth Senedd:

  • Clwyd (yn cynwys y mwyafrif o Sir Ddinbych)
  • Bangor Conwy Môn
  • Gwynedd Maldwyn

Mae Cyngor Sir y Fflint yn rheoli etholiad etholaeth Clwyd; Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn rheoli etholiad Bangor Conwy Môn, a Chyngor Gwynedd yn rheoli etholiad etholaeth Gwynedd Maldwyn.

Gallwch ddod o hyd i’ch etholaeth newydd drwy nodi eich cod post yn y map darganfod etholaeth (gwefan allanol).

Bydd etholiad nesaf y Senedd yn cael ei gynnal ddydd Iau 7 Mai 2026.

Yn yr etholiad nesaf, bydd newidiadau i nifer aelodau'r Senedd, yr etholaethau, a sut mae aelodau'r Senedd yn cael eu hethol:

  • 96 o Aelodau: O'r etholiad ym mis Mai 2026, bydd gan y Senedd 96 o Aelodau yn hytrach na 60.
  • System bleidleisio newydd: Bydd gan bawb sy’n 16+ un bleidlais nawr, gan ddewis plaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol.
  • Etholaethau newydd: Bydd gan Gymru 16 o etholaethau. Bydd pob etholaeth yn ethol chwe Aelod.
  • Rheolau newydd: Rhaid i unrhyw un sy'n sefyll ar gyfer etholiad fyw yng Nghymru.

Gallwch ddysgu mwy ar wefan y Senedd (gwefan allanol). I ddarganfod ble mae eich gorsaf bleidleisio, ewch i: Dod o hyd i'ch gorsaf bleidleisio | Ble Ydw i'n Pleidleisio? (gwefan allanol).

Pwy all bleidleisio?

Gallwch bleidleisio yn etholiad y Senedd os ydych wedi cofrestru i bleidleisio yng Nghymru, os fyddwch yn 16 oed neu'n hŷn ddydd Iau 7 Mai 2026 ac os ydych chi:

  • yn ddinesydd Prydeinig neu Iwerddon neu'n
  • ddinesydd o'r Gymanwlad sydd â chaniatâd i aros yn y DU neu nad oes angen caniatâd o'r fath arno, neu
  • ddinesydd gwlad yn yr Undeb Ewropeaidd neu
  • ddinesydd tramor cymwys sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros yn y DU neu nad oes angen caniatâd o'r fath arno

Ni all dinasyddion Prydain sy'n byw dramor bleidleisio yn yr etholiad hwn.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Comisiwn Etholiadol: Ym mha etholiadau y gallwch chi bleidleisio (gwefan allanol)

Dyddiadau allweddol

Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yw dydd Llun 20 Ebrill 2026.

Os ydych wedi symud adref yn ddiweddar ac nad ydych wedi cofrestru i bleidleisio yn eich cyfeiriad newydd, rhaid i chi wneud hynny erbyn dydd Llun, 20 Ebrill 2026.

Os hoffech bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy drwy'r post, y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 5pm, dydd Mawrth 21 Ebrill 2026.

Os hoffech bleidleisio drwy ddirprwy (nid dirprwy brys), y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 5pm, dydd Mawrth 28 Ebrill 2026.

Efallai y bydd pleidleisiau dirprwy brys ar gael o ar ôl 5pm, dydd Mawrth 28 Ebrill 2026 tan 5pm ar 7 Mai 2026 ond dim ond o dan amgylchiadau lliniarol penodol, gallwch ddod o hyd i fanylion ar wefan y Comisiwn Etholiadol (gwefan allanol) neu gysylltwch â ni drwy e-bost.

Dydd Iau 7 Mai 2026 yw'r diwrnod pleidleisio. Bydd Gorsafoedd Pleidleisio ar agor rhwng 7am a 10pm.

Enwebiadau

Mae enwebiadau i sefyll fel ymgeisydd yn cau am 4pm ar 9 Ebrill 2026.

Bydd Cyngor Sir y Fflint (gwefan allanol) yn derbyn a chyhoeddi enwebiadau ar gyfer Etholaeth Clwyd.

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (gwefan allanol) yn derbyn a chyhoeddi enwebiadau ar gyfer Etholaeth Bangor Conwy Môn.

Bydd Cyngor Gwynedd (gwefan allanol) yn derbyn a chyhoeddi enwebiadau ar gyfer Etholaeth Gwynedd Maldwyn.

 

Hysbysiadau Etholiad

Gallwch ddod o hyd i'r Hysbysiad Etholiad ar gyfer yr etholaethau canlynol:

Canlyniadau Etholiadau Senedd 2021

Cynhaliwyd etholiad y Senedd ddydd Iau 6 Mai 2021

Dyffryn Clwyd

Gweld canlyniadau Dyffryn Clwyd yn etholiad Senedd Cymru

Etholaeth Gorllewin Clwyd

Ewch i conwy.gov.uk i weld canlyniadau Gorllewin Clwyd yn etholiad Senedd Cymru

De Clwyd

Ewch i wrexham.gov.uk i weld canlyniadau De Clwyd yn etholiad Senedd Cymru ar gyfer 

Rhanbarth etholiadol Gogledd Cymru

Ewch i siryfflint.gov.uk i weld canlyniadau Gorllewin Clwyd yn etholiad Senedd Cymru