Polisi Ystâd Amaethyddol 2026

1. Cefndir

1.1 Mae Ystâd Amaethyddol y Cyngor, ym mis Chwefror 2026, yn cynnwys 12 o ffermydd, sy’n gyfanswm o tua 1,274 erw, a 12 o safleoedd tir moel, sy’n gyfanswm o tua 448 erw. Mae’r ystâd yn cael ei brydlesu; CSDd yw’r landlord ac nid rheolwr y tir (y tenant yw’r rheolwr). Mae’r Cyngor yn rheoli’r ystâd fel landlord yn unol â’r strategaeth bresennol a thelerau’r tenantiaethau.

2. Polisi Ystâd Amaethyddol – 2026

2.1. O ran daliadau lle mae tenantiaeth yn dod i ben, bydd y tenant presennol yn cael dewis, lle bo hynny’n briodol, i brynu rhydd-ddaliad y fferm neu rannau ohoni. Bydd addasrwydd yn destun adolygiad ar y cyd â swyddogion allweddol yn y Cyngor a'r Aelodau Arweiniol. Yn yr achos hwn, bydd unrhyw dir sy'n weddill sy'n ffurfio rhan o'r daliad yn cael ei gynnig ar denantiaeth tymor byr i'r tenant presennol ar y ddealltwriaeth bod disgwyl iddynt nail ai brynu neu ildio'r tir hwn pan fydd y denantiaeth yn dod i ben. Pan nad ystyrir bod gwerthiant rhydd-ddaliad yn briodol, neu os bydd tenant yn gwrthod prynu'r daliad o dan yr amgylchiadau hyn, ni fydd y denantiaeth yn cael ei hadnewyddu a bydd opsiynau eraill yn cael eu hystyried ar gyfer dyfodol y fferm a allai gynnwys ei gosod ar y farchnad agored.

2.2. Pan dderbynnir ceisiadau newydd gan denant am olyniaeth tenantiaeth i fab neu ferch, bydd trafodaethau yn dechrau gyda'r tenant - lle bo'n briodol - ynghylch gwerthu rhan neu'r cyfan o'r daliad i'r tenant. Caiff addasrwydd ei adolygu ar y cyd â swyddogion allweddol yn y Cyngor a'r Aelodau Arweiniol. Pan wrthodir cynnig gwerthiant i'r tenant, gwrthodir tenantiaeth olyniaeth. Os nad yw'r pryniant rhydd-ddaliad yn mynd rhagddo fel y disgwyl, ni fydd y denantiaeth yn cael ei hadnewyddu a bydd opsiynau eraill yn cael eu hystyried ar gyfer dyfodol y fferm a allai gynnwys ei gosod ar y farchnad agored.

2.3. Bydd tenantiaid presennol sy'n meddiannu daliadau o dan denantiaethau hirdymor - lle bo'n briodol - yn cael cynnig yr opsiwn o brynu'r cyfan neu ran o rydd-ddaliad eu daliadau fel yn yr uchod, gan ystyried gwerth y brydles bresennol ac unrhyw fuddsoddiad a wneir gan y tenant yn y daliad.

2.4. Gall cyfleoedd godi ar sail ad hoc lle gall tenant fynegi ei ddiddordeb mewn prynu rhan neu'r cyfan o'r daliad. Gall trafodaethau o'r fath ddigwydd yn ystod trafodaethau adolygu rhent neu yn ystod trafodaethau eraill sy'n ymwneud â rheoli'r daliad. Bydd cyfleoedd gwaredu posibl o'r fath sy'n deillio o ddigwyddiadau annisgwyl yn cael eu cymryd pan fyddant yn codi. Caiff safleoedd strategol eu nodi a’u trin yn unigol.

2.5. Bydd y mwyafrif o warediadau’n ddarostyngedig i gyfamodau sy'n cyfyngu ar ddefnydd y tir at ddibenion amaethyddol a/neu gytundebau gorswm mewn perthynas ag unrhyw werthoedd uwch a gafwyd trwy ddefnydd amgen a/neu gadw hawliau ar draws unrhyw dir a waredir (cyn belled ag y gellir gwneud hyn yn gyfreithlon i ddiogelu hawliau'r Cyngor a'i anghenion yn y dyfodol).

2.6. Ym mhob achos, cedwir at gynllun dirprwyo a phroses ddemocrataidd y Cyngor ar y pryd wrth wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar yr ystâd.

Polisi Ystâd Amaethyddol 2026 (PDF, 110KB)