Gorchymyn Rheoleiddio Traffig: Dim Aros ar Unrhyw Adeg - B5437 (Carrog)

Rydym yn ymgynghori ar Gorchymyn Rheoleiddio Traffig arfaethedig ar y B5437 yng Ngharrog. Yr effaith y Gorchymyn fydd Dim Aros ar Unrhyw Adeg

Mae'r cyfyngiadau parcio (llinellau melyn dwbl) yn angenrheidiol i atal cerbydau rhag parcio ar ymyl y ffordd, sy'n atal traffig rhag mynd heibio iddynt. Bydd y llinellau'n helpu gyda llif y traffig.

Beth yw Gorchymyn Rheoleiddio Traffig (TRO)?

Mae Gorchymyn Rheoleiddio Traffig yn ddogfen gyfreithiol sy’n cyfyngu neu’n gwahardd y defnydd o’r rhwydwaith priffyrdd, yn unol â Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (gwefan allanol).

Mae Gorchmynion Rheoleiddio Traffig yn ein helpu i reoli’r rhwydwaith priffyrdd i holl ddefnyddwyr y ffyrdd, yn cynnwys cerddwyr a’u nod yw gwella diogelwch ffyrdd a mynediad at gyfleusterau yn yr ardaloedd lle cânt eu cynnig.

Gellir ond cynnig Gorchymyn Rheoleiddio Traffig am y rhesymau a amlinellir yn y ddeddfwriaeth, a gellir ond cynnig cynllun os yw’r rheoliadau’n caniatáu ar gyfer gosod llinellau ar y ffordd neu’r palmant neu arwyddion priffyrdd priodol ar safle’r cynllun.

Mae enghreifftiau o gynlluniau sy’n ymofyn Gorchymyn Rheoleiddio Traffig yn cynnwys:

  • Gwaharddiad Aros
  • Newidiadau i derfynau cyflymder
  • Cyfyngiadau parcio ar y stryd
  • Cyfyngiadau pwysau / lled neu gyfyngiadau eraill ar gerbydau
  • Strydoedd unffordd

Gorfodi

Unwaith y bydd y Gorchymyn wedi'i wneud, bydd gorfodaeth yn gyfrifoldeb Swyddogion Gorfodi Sifil y Cyngor (CEOs).

Mae gan y CEOs yr hawl i godi hysbysiadau cosb (PCNs) i unrhyw gerbydau sydd wedi'u parcio ar y llinellau melyn dwbl.

Rhannwch eich barn â ni

Cyn gweithredu Gorchymyn Rheoleiddio Traffig, mae’n ofyniad cyfreithiol arnom i ymgynghori â’r cyhoedd am gyfnod o 21 diwrnod. Rydym yn rhoi hysbysiadau cyhoeddus yn y wasg leol ac yn gosod hysbysiadau yn yr ardal leol lle cynigir gweithredu’r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig. Rydym hefyd wedi creu’r dudalen hon ar ein gwefan.

Os oes gennych chi unrhyw sylwadau neu wrthwynebiad i’r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig arfaethedig, byddem yn ddiolchgar pe baech cystal ag anfon eich adborth atom drwy:

Lenwi'r ffurflen adborth ar-lein (gwefan allanol)

Ysgrifennu at:

Catrin Roberts,
Pennaeth Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Pobl
Cyngor Sir Ddinbych,
Ffordd Wynnstay
Rhuthun,
LL15 1YN

Y dyddiad cau ar gyfer adborth yw: 30 Gorffennaf 2025.

Dylech gynnwys eich enw a’ch cyfeiriad a dylid nodi y gall y Cyngor roi ystyriaeth i'r holl sylwadau sy'n cael eu derbyn yng ngŵydd y cyhoedd a gallai sylwedd unrhyw sylwadau ynghyd ag enw a chyfeiriad y person sy'n gwneud y sylwadau hynny fod ar gael i'r cyhoedd eu harchwilio.