Gwellianau i Sgwâr Sant Pedr (Rhuthun): residents and businesses access needs consultation

Rydym yn ceisio cysylltu â phreswylwyr a busnesau Sgwâr Sant Pedr a’r strydoedd cyfagos, a fydd o bosibl yn cael eu heffeithio gan y gwaith sydd i ddod i wneud gwelliannau.

Beth ydym yn ei wneud?

Rydym yn ceisio cysylltu â phreswylwyr a busnesau Sgwâr Sant Pedr a’r strydoedd cyfagos, a fydd o bosibl yn cael eu heffeithio gan y gwaith sydd i ddod i wneud gwelliannau.

Pam ydym ni'n gwneud hyn?

Er mwyn deall eu hanghenion o ran mynediad ac unrhyw ymweliadau/ danfoniadau posibl ganddynt, fel bod modd i ni sicrhau cyn lleied â phosibl o darfu wrth gynllunio’r gwelliannau i Sgwâr Sant Pedr.

Beth ydym ni eisiau ei wybod?

Anghenion mynediad preswylwyr a busnesau ac unrhyw ddanfoniadau / ymweliadau a dderbyniant.

Pa wahaniaeth a fydd yn ei wneud?

Mae'r wybodaeth yn bwysig i ni er mwyn i ni allu cynnal mynediad a darparu ar gyfer danfoniadau/ymweliadau trigolion a busnesau yn ystod ein gwaith adeiladu.

Sut ellwch chi gymryd rhan?

Os ydych chi'n byw neu yn gweithio yno ar Sgwâr San Pedr neu strydoedd cyfagos, byddem yn ddiolchgar pe gallech gwblhau'r arolwg canlynol:

Complete the resident's survey

Complete the business access needs survey

Complete the business access and deliveries needs property survey

Gellir cael copïau papur o’r arolwg a’u dychwelyd yma:

Llyfrgell Rhuthun
Stryd y Llys
Rhuthun
LL15 1DS

Cyngor Sir Ddinbych
Neuadd y Sir
Ffordd Wynnstay
Rhuthun
LL15 1YN

You can download and print the survey forms:

Gallwch e-bostio: swyddfarhaglencorfforaethol@sirddinbych.gov.uk

Gallwch ysgrifennu at:

Gwasanaethau Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwlad
Blwch Post 62
Rhuthun
LL15 9AZ

Y dyddiad cau ar gyfer pob ymateb yw: Dydd Sul 30 Tachwedd 2025.

Sut fyddwn ni'n rhoi adborth?

Byddwn yn casglu’r holl ymatebion i’r arolwg ac yn cysylltu â phreswylwyr a busnesau sydd ag anghenion mynediad ddechrau 2026 cyn i'r gwaith adeiladu ddechrau.

Adborth

Dewch yn ôl ar gyfer y canlyniadau.