Ymgynghoriad ar drwyddedu ychwanegol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth ar draws Sir Ddinbych
Dweud eich dweud ar ein Gynllun arfaethedig Trwyddedu Ychwanegol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth yn Sir Ddinbych.
Beth ydym yn ei wneud?
Rydym yn ymgynghori ar Gynllun Trwyddedu Ychwanegol arfaethedig ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth yn Sir Ddinbych.
Beth yw Tŷ Amlfeddiannaeth (HMO)?
O dan Ddeddf Tai 2004, mae Tŷ Amlfeddiannaeth yw:
- Tŷ neu fflat cyfan sydd wedi’i feddiannu gan dri thenant neu fwy sydd yn ffurfio dwy aelwyd neu fwy ac sy’n rhannu cegin, ystafell ymolchi neu doiled
- Tŷ sydd wedi’i droi yn nifer o fflatiau un ystafell neu lety arall nad yw’n hunangynhwysol ac sydd wedi’i feddiannu gan dri thenant neu fwy sy’n ffurfio dwy aelwyd neu fwy ac yn rhannu cegin, ystafell ymolchi neu doiled
- Tŷ wedi’i drawsnewid sydd yn cynnwys un fflat neu fwy nad ydynt yn llwyr hunangynhwysol ac sydd wedi’u meddiannu gan dri thenant neu fwy sy’n ffurfio dwy aelwyd neu fwy
- Adeilad sydd wedi’i drawsnewid yn llwyr yn fflatiau hunangynhwysol lle mae llai na dwy ran o dair gyda'r perchennog yn byw yno a lle nad oedd y trawsnewid yn cydymffurfio gyda Rheoliadau Adeiladu 1991
Pa amodau trwyddedu sydd eisoes mewn grym ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth?
Cyflwynodd Deddf Tai 2004 ddyletswydd i awdurdodau lleol weithredu Cynllun Trwyddedu Gorfodol ar gyfer mathau penodol o dai amlfeddiannaeth sy’n cynnwys:
- Tri llawr neu fwy, gyda phump neu fwy o breswylwyr gan ffurfio dwy aelwyd neu fwy.
Nod y Cynllun Trwyddedu Gorfodol yw sicrhau y caiff Tai Amlfeddiannaeth eu rheoli’n iawn gan unigolion addas a phriodol, bod gan yr eiddo gyfleusterau ac amwynderau addas a bod y trefniadau diogelwch tân yn dderbyniol. Fodd bynnag, dim ond nifer fechan o Dai Amlfeddiannaeth yn Sir Ddinbych sy'n gorwedd o fewn y meini prawf Trwyddedu Gorfodol a osodir gan y Ddeddf.
Mae Deddf Tai 2004 hefyd yn cynnwys darpariaethau sy’n galluogi awdurdodau lleol i ymestyn cynllun trwyddedu i gategorïau eraill o Dai Amlfeddiannaeth i fynd i’r afael â phroblemau penodol nad ydynt yn cael eu cynnwys yn y Cynllun Gorfodol. Gelwir hyn yn Drwyddedu Ychwanegol.
Beth yw cynigion y Cynllun Trwyddedu Ychwanegol?
Ar hyn o bryd mae gennym ni gynllun Trwyddedu Ychwanegol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth yn Sir Ddinbych sy’n ymdrin ag ardaloedd Y Rhyl, Prestatyn, Dinbych a Llangollen ac mae disgwyl i hwn ddod i ben ddiwedd mis Tachwedd 2025.
Rydym yn cynnig rhoi Cynllun Trwyddedu Ychwanegol mewn grym i gymryd lle’r un presennol a’r tro hwn rydym yn cynnig ymestyn y cynllun i gynnwys Sir Ddinbych gyfan
Bydd y cynllun yn weithredol am 5 mlynedd ac ymhlith y mathau o Dai Amlfeddiannaeth a fyddai’n cael eu cynnwys mae’r canlynol:
- Tŷ neu fflat cyfan sydd wedi’i feddiannu gan dri thenant neu fwy sydd yn ffurfio dwy aelwyd neu fwy ac sy’n rhannu cegin, ystafell ymolchi neu doiled.
- Tŷ sydd wedi’i droi yn nifer o fflatiau un ystafell neu lety arall nad yw’n hunangynhwysol ac sydd wedi’i feddiannu gan dri thenant neu fwy sy’n ffurfio dwy aelwyd neu fwy ac yn rhannu cegin, ystafell ymolchi neu doiled.
- Tŷ wedi’i drawsnewid sydd yn cynnwys un fflat neu fwy nad ydynt yn llwyr hunangynhwysol ac sydd wedi’u meddiannu gan dri thenant neu fwy sy’n ffurfio dwy aelwyd neu fwy.
- Adeilad sydd wedi ei feddiannu gan dri thenant neu fwy ac yn cynnwys dwy aelwyd neu fwy a sydd wedi’i drawsnewid yn llwyr yn fflatiau hunangynhwysol lle mae llai na dwy ran o dair gyda'r perchennog yn byw yno a lle nad oedd y trawsnewid yn cydymffurfio gyda Rheoliadau Adeiladu 1991.
Pam ydym ni'n gwneud hyn?
O dan Adran 56 Deddf Tai 2004 mae gennym ni ddyletswydd i gymryd camau cyfrifol i ymgynghori ac ystyried unrhyw sylwadau a dderbyniwyd cyn dynodi ardal ar gyfer trwyddedu ychwanegol yn ymwneud â Thai Amlfeddiannaeth.
Beth ydym ni eisiau ei wybod?
Rydym yn croesawu sylwadau gan randdeiliaid a fydd yn cael eu heffeithio gan y cynllun, sy'n cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i:
- Tenantiaid
- Landlordiaid
- Asiantau rheoli a rhentio eiddo
- Preswylwyr lleol
Pa wahaniaeth a fydd yn ei wneud?
Byddwn yn ystyried unrhyw adborth, cyn i ni gyhoeddi'r adroddiad terfynol ar gyfer cymeradwyaeth y Cabinet.
Sut ellwch chi gymryd rhan?
Cymerwch ran yn ein harolwg
Gellir cwblhau ein harolwg ar-lein, ac mae'r ymgynghoriad ar agor ar gyfer 10 wythnos.
Ffurflen ar-lein (gwefan allanol)
Gellir cael copïau papur o'r arolwg (a'u dychwelyd) o unrhyw Llyfrgell Sir Ddinbych mewn eu oriau agor arferol
Gallwch ebostiwch â envhealth@denbighshire.gov.uk
Ysgrifennwch at:
Gwarchod y Cyhoedd (Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth),
Cyngor Sir Ddinbych,
Blwch Post 62,,
Rhuthun
LL15 9AZ
Y dyddiad cau ar gyfer pob ymateb yw: 8fed Hydref 2025.
Sut fyddwn ni'n rhoi adborth?
Cynhelir trafodaeth ar y adroddiad terfynol a'r cynigion yng Nghabinet y Cyngor ar 21 Hydref 2025. Mae'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu ar y we ac fe fydd ar gael i'w gweld gan y cyhoedd.
Adborth
Dewch yn ôl am ganlyniadau, ar ôl cyfnod yr ymgynghoriad.