Gorchymyn Rheoleiddio Traffig: Dim aros, llwytho na dadlwytho ar unrhyw adeg: Cyffordd Allt yr Efail a Ffynnon Tegla (Llandegla)
Rydym ni'n ymgynghori ar Orchymyn Rheoleiddio Traffig ar gyffordd Allt Yr Efail a Ffynnon Tegla (Llandegla), a'i effaith fydd 'Dim aros, llwytho na dadlwytho ar unrhyw adeg'.
Mae angen Gwaharddiad ar Aros, Llwytho neu Ddadlwytho (llinellau melyn dwbl gydag ymylon pafin) er mwyn atal parcio yn agos at gyffordd Allt Yr Efail a Ffynnon Tegla er mwyn sicrhau ardal glir a diogel er mwyn i'r gwasanaeth bws dyddiol allu troi rownd.
Beth yw Gorchymyn Rheoleiddio Traffig (TRO)?
Mae Gorchymyn Rheoleiddio Traffig yn ddogfen gyfreithiol sy’n cyfyngu neu’n gwahardd y defnydd o’r rhwydwaith priffyrdd, yn unol â Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (gwefan allanol).
Mae Gorchmynion Rheoleiddio Traffig yn ein helpu i reoli’r rhwydwaith priffyrdd i holl ddefnyddwyr y ffyrdd, yn cynnwys cerddwyr a’u nod yw gwella diogelwch ffyrdd a mynediad at gyfleusterau yn yr ardaloedd lle cânt eu cynnig.
Gellir ond cynnig Gorchymyn Rheoleiddio Traffig am y rhesymau a amlinellir yn y ddeddfwriaeth, a gellir ond cynnig cynllun os yw’r rheoliadau’n caniatáu ar gyfer gosod llinellau ar y ffordd neu’r palmant neu arwyddion priffyrdd priodol ar safle’r cynllun.
Mae enghreifftiau o gynlluniau sy’n ymofyn Gorchymyn Rheoleiddio Traffig yn cynnwys:
- Gwaharddiad Aros
- Newidiadau i derfynau cyflymder
- Cyfyngiadau parcio ar y stryd
- Cyfyngiadau pwysau / lled neu gyfyngiadau eraill ar gerbydau
- Strydoedd unffordd
Gorfodi
Unwaith y bydd y Gorchymyn wedi'i wneud, bydd gorfodaeth yn gyfrifoldeb Swyddogion Gorfodi Sifil y Cyngor (CEOs).
Mae gan y CEOs yr hawl i godi hysbysiadau cosb (PCNs) i unrhyw gerbydau sydd wedi'u parcio ar y llinellau melyn dwbl.
Rhannwch eich barn â ni
Cyn gweithredu Gorchymyn Rheoleiddio Traffig, mae’n ofyniad cyfreithiol arnom i ymgynghori â’r cyhoedd am gyfnod o 21 diwrnod. Rydym yn rhoi hysbysiadau cyhoeddus yn y wasg leol ac yn gosod hysbysiadau yn yr ardal leol lle cynigir gweithredu’r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig. Rydym hefyd wedi creu’r dudalen hon ar ein gwefan.
Os oes gennych chi unrhyw sylwadau neu wrthwynebiad i’r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig arfaethedig, byddem yn ddiolchgar pe baech cystal ag anfon eich adborth atom drwy:
E-bost:
Drwy e-bostio traffig@sirddinbych.gov.uk
Yn ysgrifenedig:
Yn ysgrifenedig trwy lythyr i:
Pennaeth Gwasanaeth, Catrin Roberts,
Gwasanaethau Cymorth Corfforaethol: Pobl,
Cyngor Sir Ddinbych,
Blwch Post 62,
Rhuthun,
LL15 9AZ.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn adborth ydi: 25 Rhagfyr 2025.
Dylech gynnwys eich enw a’ch cyfeiriad a dylid nodi y gall y Cyngor roi ystyriaeth i'r holl sylwadau sy'n cael eu derbyn yng ngŵydd y cyhoedd a gallai sylwedd unrhyw sylwadau ynghyd ag enw a chyfeiriad y person sy'n gwneud y sylwadau hynny fod ar gael i'r cyhoedd eu harchwilio.