Arolwg Llyfrgelloedd 2026

Dywedwch eich barn wrthym am eich llyfrgell leol yn Sir Ddinbych!

Rydym ni’n gweithio’n gyson i wella a datblygu, ac fe garem ni glywed am eich profiadau chi yn ymweld â’n llyfrgelloedd a defnyddio ein gwasanaethau. Does dim rhaid i chi ateb pob cwestiwn, na rhoi’ch enw. Diolch am rannu eich sylwadau.

Mae’r Gwasanaeth Llyfrgelloedd yn cynnal arolwg cwsmeriaid ac mae’n gwahodd pobl o bob cwr o’r Sir i roi eu barn am eu llyfrgell leol. Mae’n rhaid i lyfrgelloedd yng Nghymru gynnal arolwg bob tair blynedd yn rhan o Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru.

Mae’r wybodaeth o’r arolwg yn cael ei ddefnyddio i adrodd ar berfformiad y Gwasanaeth trwy gydol y flwyddyn, ac mae’n helpu i siapio datblygiadau’r gwasanaeth yn y dyfodol. Gallwch lenwi’r arolwg hwn ar-lein neu yn y llyfrgell trwy gydol mis Tachwedd.

Arolwg Llyfrgelloedd 2026

Arolwg Llyfrgell (Plant a Phobl Ifanc 7-16) 2026