Arolwg Sgwrs y Sir 2026

Asesu Lles ein sir

Helpwch i lunio dyfodol ein sir

Rydym yn gofyn i bobl sy'n byw, yn gweithio, neu'n treulio amser yn ein sir rannu eu barn.

Bydd yr hyn a ddywedwch wrthym yn helpu i lunio'r Asesiad Lles ar gyfer Conwy a Sir Ddinbych, a'r blaenoriaethau y mae gwasanaethau cyhoeddus yn canolbwyntio arnynt yn y dyfodol. Dyma eich cyfle i helpu i ddylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio ar fywyd bob dydd.

Pam ydym ni'n gwneud hyn?

Rhaid i gyrff cyhoeddus yng Nghymru gynllunio ar gyfer yr hirdymor a meddwl am genedlaethau'r dyfodol.

I wneud hyn yn dda, mae angen i ni ddeall beth sy'n gweithio'n dda nawr, beth sydd ddim yn gweithio cystal, a sut mae pobl eisiau i fywyd fod yn y dyfodol. Mae eich profiadau, syniadau a phryderon yn bwysig.

Sut fydd eich data'n cael ei ddefnyddio

Bydd gwybodaeth a all eich adnabod chi, yn cael ei gweld gan Gyngor Sir Ddinbych yn unig. Byddwn yn cyfuno’r data yr ydym yn ei gael i ddeall blaenoriaethau a thueddiadau a rennir, a bydd y data cryno hwn ar gael i chi fel adroddiad a gaiff ei gyhoeddi ar-lein. Gobeithiwn gael trafodaethau pellach ar draws ein cymunedau am ein canfyddiadau o’r gwaith hwn, er mwyn creu dealltwriaeth well o’ch anghenion a’ch blaenoriaethau.

Bydd y wybodaeth y byddwch yn ei rhannu yn cael ei gadw am 5 mlynedd o’r dyddiad y bydd yr arolwg yn cau yn unol â gofynion Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliadau Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data. Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am y ffordd y bydd eich data’n cael ei ddefnyddio ar: www.sirddinbych.gov.uk/preifatrwydd.

Cwblhau'r arolwg hwn

Bydd yr arolwg yn cymryd tua 10 munud i'w gwblhau. Ymatebwch erbyn Dydd Gwener 31 Gorffennaf 2026. Mae'r arolwg hwn ar gael mewn fformatau eraill ar gais trwy gysylltu strategicplanningteam@denbighshire.gov.uk.

Arolwg: Arolwg Sgwrs y Sir 2026