Cais i ddod yn safle cymeradwy ar gyfer priodasau: Wigfair Hall, Cefn (Llanelwy)

Cyngor Sir Ddinbych

Deddf Priodasau 1949
Deddf Partneriaeth Sifil 2004

Rhoddir rhybudd yn unol â'r uchod fod cais wedi’i gyflwyno gan Mr Andrew Kippax ar gyfer yr eiddo a adwaenir fel Wigfair Hall, Cefn, Llanelwy, Sir Ddinbych LL17 0ET, am ganiatâd i weinyddu priodasau a chofrestru phartneriaethau sifil yn yr eiddo.

Bydd y cais a'r cynllun ynghlwm ar gael i'w harchwilio am 21 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad hwn yn swyddfa'r Pennaeth Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Pobl, Neuadd y Sir, Ffordd Wynnstay, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1YN.

Gall unrhyw unigolyn ysgrifennu at y cyfeiriad uchod yn ystod y cyfnod hwn i wrthwynebu caniatáu'r cais, gyda'r rhesymau dros hynny.

Catrin Roberts
Y Swyddog Priodol

Gall unrhyw unigolyn ysgrifennu gan cwblhau'r ymholiad isod neu at y cyfeiriad uchod yn ystod y cyfnod hwn i Wrthwynebu caniatáu'r cais, gyda'r rhesymau dros hynny.

  • Dyddiad cychwyn:3 Mawrth 2026
  • Dyddiad Gorffen:24 Mawrth 2026

Dweud eich dweud: Cais i ddod yn safle cymeradwy ar gyfer priodasau: Wigfair Hall (gwefan allanol)