Dogfennau cysylltiedig

Ailgylchu a gwastraff yn Sir Ddinbych: ein cynllun pum mlynedd: holiadur ymgynghori (fersiwn argraffu) (PDF, 332KB)

Helpwch ni i siapio ein blaenoriaethau ar gyfer gwasanaeth ailgylchu a gwastraff y cartref yn Sir Ddinbych am y pum mlynedd nesaf.

Beth ydym yn ei wneud?

Rydym ni’n llunio cynllun strategol pum mlynedd o hyd ar gyfer gwasanaeth ailgylchu a gwastraff y cartref yn Sir Ddinbych.

Bydd y cynllun pum mlynedd yn canolbwyntio ar y prif flaenoriaethau canlynol:

  1. Atal a lleihau: allwn ni helpu preswylwyr i atal neu leihau faint o wastraff sy’n cael ei greu yn y lle cyntaf?
  2. Ailddefnyddio a thrwsio: allwn ni helpu preswylwyr i wneud y gorau o’r eitemau sydd ganddynt eisoes, ac arbed pethau rhag mynd i safleoedd tirlenwi?
  3. Ailgylchu: allwn ni helpu preswylwyr i’n helpu ni i gyrraedd ein targedau ailgylchu statudol o 70%?

Pam ydym ni'n gwneud hyn?

  • Dyma’r amser cywir.
  • Yn 2024 fe wnaethom gyflwyno newidiadau mawr i’r ffordd rydym yn darparu gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu ymyl palmant yn Sir Ddinbych. Roedd hyn yn cynnwys symud i ddull “didoli ar ymyl palmant” o gasglu er mwyn cyrraedd gofynion glasbrint casgliadau Llywodraeth Cymru.
  • Erbyn hyn mae gennym ddigon o ddata i ddeall sut mae’r gwasanaeth yn gweithio a lle mae angen i ni ganolbwyntio i wneud gwelliannau.
  • Mae angen i ni sicrhau bod ein gwasanaeth yn wydn er mwyn ymdopi â rhagor o newidiadau deddfwriaethol i sut mae Cynghorau lleol yn rheoli casgliadau gwastraff ac ailgylchu.
  • Ar hyn o bryd, rydym ni’n agos at, ond ddim yn cyrraedd targed Llywodraeth Cymru i ailgylchu 70% o holl wastraff aelwydydd.

Bydd llunio a chyflwyno cynllun strategol rŵan yn helpu i ni ystyried yr holl ofynion hyn, ac fe allwn ni lunio cynlluniau gweithredu i sicrhau ein bod ni’n eu bodloni nhw.

Beth ydym ni eisiau ei wybod?

Hoffem glywed eich barn.

Mae gennym ofynion deddfwriaethol sydd wedi ein harwain wrth lunio ein blaenoriaethau strategol, ond mae hi’n bwysig ein bod yn deall beth sy’n bwysig i chi o ran y gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu yn Sir Ddinbych.

Byddem yn ddiolchgar pe gallech lenwi ein holiadur ymgynghori.

Byddwn yn gofyn cwestiynau i chi am:

  • Bob un o’n blaenoriaethau, yn seiliedig ar y pethau y mae’n rhaid i ni eu gwneud yn y pum mlynedd nesaf.
  • Rhai cwestiynau am eich arferion presennol o ran gwastraff ac ailgylchu.
  • Fe fydd yna le ar ddiwedd yr holiadur i chi ddweud wrthym am unrhyw beth yr hoffech ei weld.

Pa wahaniaeth a fydd yn ei wneud?

Rydym wedi defnyddio llawer o ddadansoddiad ystadegol, o Sir Ddinbych ac yn genedlaethol, i’n helpu yng nghamau cyntaf datblygu ein blaenoriaethau gwastraff ac ailgylchu strategol. Bydd eich adborth yn helpu i ni ddeall pa newidiadau yr hoffech chi eu gweld, a sut y gallwch chi ein helpu i wneud Sir Ddinbych y gorau all fod o ran ailgylchu.

Sut ellwch chi gymryd rhan?

Cymerwch ran yn ein harolwg

Gellir cwblhau ein harolwg ar-lein.

Ffurflen ar-lein (gwefan allanol)

Gellir cael copïau papur o'r arolwg a'u dychwelyd i unrhyw Llyfrgell/Siop Un Alwad Cyngor Sir Dinbych

Y dyddiad cau ar gyfer pob ymateb yw: 18 Hydref 2026.

Sut fyddwn ni'n rhoi adborth?

We will take your feedback on board and use it to inform the final version of our Recycling and Waste Strategy.

Adborth

Dewch yn ôl ar gyfer canlyniadau.