Gorchymyn Rheoleiddio Traffig: Dim Aros ar Unrhyw Adeg, Abbey Road (Rhuddlan) (wedi'i cwblhau)
Mae'r ymgynghoriad hwn yn nawr ar gau
Rydym yn ymgynghori ar Orchymyn Rheoleiddio Traffig ar gyfer Abbey Road yn Rhuddlan, a'i effaith fydd dim aros ar unrhyw adeg.
- Mae’r rhan o ffordd sydd dan sylw yn rhan fer o Abbey Road, yn union i’r de o’r gyffordd â Lôn Hylas
- Bydd y cyfyngiadau arfaethedig wedi eu marcio â llinellau melyn dwbl
- Mae’r cyfyngiadau arfaethedig yn golygu na chewch barcio na gadael eich cerbyd wedi ei barcio ar y ffordd yn yr ardal dan sylw
- Y rheswm dros wneud y cynnig yw er mwyn atal parcio ar ochr orllewinol rhan gul, fer o Abbey Road i sicrhau bod cerbydau mawr sy’n mynd i’r fferm a’r safle carafanau / gwersylla ar ben deheuol Abbey Road yn gallu teithio’n ddiogel ac yn ddirwystr.
Beth yw Gorchymyn Rheoleiddio Traffig (TRO)?
Mae Gorchymyn Rheoleiddio Traffig yn ddogfen gyfreithiol sy’n cyfyngu neu’n gwahardd y defnydd o’r rhwydwaith priffyrdd, yn unol â Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (gwefan allanol).
Mae Gorchmynion Rheoleiddio Traffig yn ein helpu i reoli’r rhwydwaith priffyrdd i holl ddefnyddwyr y ffyrdd, yn cynnwys cerddwyr a’u nod yw gwella diogelwch ffyrdd a mynediad at gyfleusterau yn yr ardaloedd lle cânt eu cynnig.
Gellir ond cynnig Gorchymyn Rheoleiddio Traffig am y rhesymau a amlinellir yn y ddeddfwriaeth, a gellir ond cynnig cynllun os yw’r rheoliadau’n caniatáu ar gyfer gosod llinellau ar y ffordd neu’r palmant neu arwyddion priffyrdd priodol ar safle’r cynllun.
Mae enghreifftiau o gynlluniau sy’n ymofyn Gorchymyn Rheoleiddio Traffig yn cynnwys:
- Gwaharddiad Aros
- Newidiadau i derfynau cyflymder
- Cyfyngiadau parcio ar y stryd
- Cyfyngiadau pwysau / lled neu gyfyngiadau eraill ar gerbydau
- Strydoedd unffordd
Gorfodi
Gall unrhyw un sy’n torri rheolau llinellau melyn dwbl gael Rhybudd Talu Cosb (PCN) o ddim mwy na £70.
Rhannwch eich barn â ni
Cyn gweithredu Gorchymyn Rheoleiddio Traffig, mae’n ofyniad cyfreithiol arnom i ymgynghori â’r cyhoedd am gyfnod o 21 diwrnod. Rydym yn rhoi hysbysiadau cyhoeddus yn y wasg leol ac yn gosod hysbysiadau yn yr ardal leol lle cynigir gweithredu’r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig. Rydym hefyd wedi creu’r dudalen hon ar ein gwefan.
Sylwer: dim ond ymatebion fyddai’n golygu bod angen i ni adolygu, addasu neu ddileu’r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig neu ran ohono sydd arnom eu hangen.
Os ydych yn cytuno â’r Gorchymyn yn union fel y mae wedi’i gynnig, nid oes angen i chi gyflwyno ymateb.
Os oes gennych chi unrhyw sylwadau neu wrthwynebiad i’r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig arfaethedig, byddem yn ddiolchgar pe baech cystal ag anfon eich adborth atom drwy:
Mae'r arolwg hwn yn nawr ar gau
Nodwch: Bydd y ffurflen adborth ar gael o Ddydd Mercher 12 Awst 2026 ymlaen.
Ysgrifennu at:
Catrin Roberts,
Pennaeth Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Pobl
Cyngor Sir Ddinbych,
Ffordd Wynnstay
Rhuthun,
LL15 1YN
Y dyddiad cau ar gyfer adborth yw: 2 Medi 2026.
Dylech gynnwys eich enw a’ch cyfeiriad a dylid nodi y gall y Cyngor roi ystyriaeth i'r holl sylwadau sy'n cael eu derbyn yng ngŵydd y cyhoedd a gallai sylwedd unrhyw sylwadau ynghyd ag enw a chyfeiriad y person sy'n gwneud y sylwadau hynny fod ar gael i'r cyhoedd eu harchwilio.
Adborth
Rydym wedi dderbyn 12 o ymatebion a rydym mewn y broses o'u ddadansoddi. Byddwn yn darparu diweddariad bellach yn fuan.