Cynnig i gynyddu capasiti Ysgol Plas Brondyffryn (Dinbych)

Adroddiad Gwrthwynebu

Gallwch weld crynodeb o unrhyw wrthwynebiadau a wnaed o fewn y cyfnod gwrthwynebu ynghyd â sylwadau’r Cyngor yn yr Adroddiad Gwrthwynebu.

Adroddiad Gwrthwynebu: Mewn perthynas â'r cais i gynyddu capasiti Ysgol Plas Brondyffryn (PDF, 686KB)

Penderfyniad

Ar y 21ain o Chwefror 2023, penderfynodd Cabinet Cyngor Sir Ddinbych y cynnig i gynyddu capasiti Ysgol Plas Brondyffryn o 116 i 220 ar y 28ain o Ebrill 2025.

Ystyriodd y Cabinet y cynnig ac ymateb yr awdurdod lleol yn unol â gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion 2018. Penderfynodd y Cabinet gymeradwyo’r cynnig.

Bydd gweithredu’r cynnig yn amodol ar gytuno ar safle, cael caniatâd cynllunio, p’un a fydd cyllid ar gael a p’un a fydd yr adeilad newydd yn barod.

Mae’r llythyr penderfyniad ar gael i'w weld isod.

Cynnig i Gynyddu Capasiti Ysgol Plas Brondyffryn o 116 i 220 (PDF, 120KB)

Hysbysiad Statudol

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cyhoeddi rhybudd statudol ar gyfer y cynnig i newid Ysgol Plas Brondyffryn yn Ninbych er mwyn cynyddu capasiti o 116 i 220.

Hysbysiad Statudol - Ysgol Plas Brondyffryn (PDF, 140KB)

Beth yw Ysgol Plas Brondyffryn, a pham fod angen iddi newid?

Mae Ysgol Plas Brondyffryn yn ysgol arbennig gyd-addysgol a gynhelir gan yr Awdurdod Lleol yn nhref Dinbych ar gyfer disgyblion o 3 oed i 19 oed gyda Chyflwr Sbectrwm Awtistig (ASC) ac anawsterau dysgu cysylltiedig.

Y capasiti arferol yn yr ysgol yw 116, ar hyn o bryd mae gan yr ysgol 136 o ddisgyblion ar y gofrestr (niferoedd Medi 2021), mae nifer o ddisgyblion cymwys ar y rhestr aros i fynychu Ysgol Plas Brondyffryn, yn ogystal â nifer o ddisgyblion yn aros am asesiad i weld a ydynt yn gymwys i ymuno â'r rhestr aros. Credwn fod y galw am leoedd mewn ysgolion arbennig fel Ysgol Plas Brondyffryn yn debygol o gynyddu dros y blynyddoedd nesaf.

Beth ydym ni'n ei gynnig?

Yn gryno, rydym yn cynnig cyfuno Ysgol Plas Brondyffryn ar un safle newydd, a chynyddu capasiti’r ysgol i ddal hyd at 220 o ddisgyblion.

Mae Ysgol Plas Brondyffryn ar hyn o bryd wedi ei gosod dros 4 safle fel a ganlyn:

  • Mae disgyblion 3-11 oed yn mynychu'r Ysgol Gynradd, sydd wedi'i lleoli yn Nhy'n y Fron
  • Mae disgyblion 11-19 oed yn mynychu'r Ysgol Uwchradd, sydd wedi ei leoli yn Stryd y Parc
  • Disgyblion 11-19 oed ag anghenion mwy cymhleth yn mynychu safle Ty'r Ysgol
  • Mae safle preswyl yn Gerddi Glaslyn sy'n cynnig cyfleusterau preswyl yn ystod yr wythnos (Dydd Llun i Ddydd Gwener). Nid yw'r safle hwn yn cael ei effeithio gan y cynigion presennol.

Yn amodol ar gyllid a chymeradwyaeth cynllunio, rydym yn bwriadu adeiladu safle newydd ar gaeau chwarae Ysgol Uwchradd Dinbych, a fydd yn disodli'r 3 adeilad ysgol sydd wedi'u lleoli ar hyn o bryd yn Ty'n y Fron, Stryd y Parc a Thŷ'r Ysgol.

Cyn-Gynllunio

Mae'r ymgynghoriad cyn cynllunio (gwefan allanol) yn caniatáu i'r cynigion gael eu hystyried gyda'r gymuned cyn cyflwyno unrhyw gais cynllunio. Fel rhan o hyn, mae’r trefniadau’n cynnwys sesiwn galw heibio ar gyfer unrhyw randdeiliaid sydd â diddordeb a gynhelir ddydd Mercher 28 Medi 4-7pm yn Ysgol Plas Brondyffryn, safle Park Street, Dinbych. Bydd y cynlluniau yn cael eu harddangos a bydd aelodau o dîm y prosiect ar gael i drafod y prosiect.

Ysgol Plas Brondyffryn, Dinbych: Ymgynghoriad cyn cynllunio - Dweud eich dweud (gwefan allanol)

Y dyddiad cau ar gyfer pob ymateb yw 18/10/2022.


Adroddiad ymgynghori (Medi 2022)

Mae'r adroddiad ymgynghori ffurfiol ynghylch y cynnig ar gyfer Cyngor Sir Ddinbych i gynyddu capasiti Ysgol Plas Brondyffryn o 116 i 220 bellach ar gael.

Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi’r ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad diweddar ar y cynnig uchod yn ogystal ag ymatebion Cyngor Sir Ddinbych.

Dogfennau ymgynghori ffurfiol (Mai 2022)

Gallwch weld dogfennau blaenorol ar gyfer yr ymgynghoriad ffurfiol o 17 Mai - 27 Mehefin 2022 isod.