Cyngor Cymuned Llanbedr: Clerc y Cyngor a'r Swyddog Ariannol Cyfrifol
Cyngor Cymuned Llanbedr yn ceisio recriwtio Clerc y Cyngor a'r Swyddog Ariannol Cyfrifol.
- Graddfa Gyflog Cychwynnol pwynt cytundeb cyfredol NALC 18 (£15.21 yr awr) - gallai fod yn uwch yn dibynnu ar brofiad a chymwysterau perthnasol.
- Yn amodol ar drafodaeth.
Mae Llanbedr Dyffryn Clwyd yn Gyngor Cymuned rhagweithiol yn Sir Ddinbych gyda phoblogaeth o ychydig llai na 1,000 o drigolion.
Dymunwn benodi person i fod yn gyfrifol am bob agwedd o’r swydd sef: rheolaeth, swyddogaethau a chyfrifoldebau'r Cyngor gan gynnwys cofnodion, cynrychiolaeth a gweinyddiaeth ariannol.
I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn rydym yn chwilio amdano, ac am Ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb Person, gwnewch gais trwy e-bost at: Y Cadeirydd, Mr Tim Baker ar baker.eames@virgin.net.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau terfynol Dydd Gwener 15 Rhagfyr 2023.