Cyngor Tref Llangollen: Swydd wag - Clerc a Swyddog Ariannol Cyfrifol

Logo Cyngor y Dref Llangollen

Mae Cyngor Dref Llangollen yn chwilio am Glerc a Swyddog Ariannol Cyfrifol.

Rhaid dychwelyd ceisiadau erbyn 30 Medi 2026.

Cyflog: Cyflog o fewn gradd LC3 (SCP 37-41 - £49,817 - £54,143 p.a.).

 

Llawn-amser (37 awr yr wythnos).

 

Mae'r Cyngor yn chwilio am berson hynod drefnus ac ymroddedig i gyflawni’r rôl allweddol hon sy’n gyfrifol am holl drefniadaeth a rheolaeth feunyddiol gwasanaethau, staff, cyfleusterau a chyllid y Cyngor. Felly, bydd angen ichi fod yn frwdfrydig, hyblyg a ffocysu ar anghenion y gymuned a meddu ar sgiliau arweinyddol, rheoli, gweinyddol, rhyng-bersonol, cyfrifo a TG rhagorol er mwyn gweithio’n llwyddiannus â staff, Cynghorwyr, sefydliadau allanol, budd-ddeiliaid a’r gymuned.

Yn ddelfrydol dylech feddu ar gymhwyster CiLCA (y Dystysgrif mewn Gweinyddiaeth Cynghorau Lleol) neu fod yn barod i'w gyflawni fewn 2 flynedd i'r penodiad a dylai fod gennych ddealltwriaeth gadarn o drefniadaeth a rheolaeth awdurdodau lleol.

Rydym yn cynnig telerau ac amodau cyflogi cenedlaethol rhagorol ar gyfer y swydd lawn-amser hon sy’n yn cynnwys rhywfaint o bresenoldeb gyda'r nos a phenwythnosau.

Ffoniwch Clerc y Dref ar 01978 861345 neu ebostiwch townclerk@llangollentowncouncil.gov.uk i gael pecyn recriwtio a ffurflen gais.

Mae Cyngor Dref Llangollen yn Gyflogydd Cyfleoedd Cyfartal ac mae’n croesawu ceisiadau o bob rhan o’r gymuned.