Pwyllgorau Craffu

Mae yna dri phwyllgor craffu. Pwrpas y pwyllgorau hyn yw rhoi cyngor i’r cabinet, ac adolygu a herio eu penderfyniadau. Maen nhw hefyd yn ystyried materion polisi ehangach ac yn gwneud argymhellion i'r Cabinet a'r Cyngor.

Isod gwelir dolenni at fanylion am bob un o Bwyllgorau Craffu'r Cyngor, ynghyd â dolenni at gopïau o'u Hadroddiadau Blynyddol ac adroddiadau eraill a baratowyd gan y pwyllgorau.

Mae'r Pwyllgorau Craffu yn awyddus i annog y cyhoedd i ymgysylltu â'r broses graffu ac awgrymu pynciau a allai elwa o gael eu harchwilio gan Graffu. Os oes gennych bwnc y teimlwch y gallai elwa o gael ei ystyried yn fanwl gan un o'r pwyllgorau, cwblhewch y ffurflen sydd ar gael ar y ddolen isod a'i hanfon i'r cyfeiriad e-bost canlynol: democrataidd@sirddinbych.gov.uk. Os yw’n well gennych, mae modd argraffu'r ffurflen, ei chwblhau a'i phostio i'r cyfeiriad a ddangosir ar y ffurflen.

Ffurflen cais i Graffu (MS Word, 34KB)

Os ydych am drafod y broses graffu neu os oes angen cymorth arnoch i lenwi'r ffurflen, ffoniwch y Cydlynydd Craffu ar 01824 712554.

Manylion Pwyllgor

Pwyllgorau Craffu - Adroddiad Blynyddol

Dogfennau cysylltiedig

Pwyllgor Craffu Cymunedau Tân Mynydd Llantysilio 2018 (PDF, 2.3MB)