Claddedigaethau, cofebau ac amlosgiadau

Claddedigaethau

Caiff y mynwentydd traddodiadol eu dosbarthu’n fynwentydd o fath lawnt. Cofebion cerrig coffa’n unig a ganiateir, gyda fâs wedi ei gosod arnyn nhw. Mae ein mynwentydd yn cynnwys:

  • Coed Bell, Ffordd Gronant Uchaf, Prestatyn. 
  • Mynwent Fron Bache, Ffordd y Ficerdy, Llangollen. 
  • Mynwent Llanrhydd, Llanrhydd, Rhuthun. 
  • Mynwent Maeshyfryd, Ffordd Dyserth, Y Rhyl. 
  • Y Fynwent Newydd, Ffordd Newydd, Rhuddlan. 
  • Mynwent y Llwyn, Mount Road, Llanelwy. 
  • Mynwent Ffordd Ystrad, Ffordd Ystrad, Dinbych.

Mae yna hefyd fynwent gaeedig ar Ffordd Morley, y Rhyl. 

Gallwch wneud cais ar gyfer y canlynol yn ein mynwentydd;

  • Gosod cofeb
  • Gosod fâs
  • Gosod croes bren dros dro
  • Ychwanegu arysgrif

Cais am ganiatâd i Godi cofeb a/neu arysgrif

Gallwch wneud cais am gael rhoi plac ar wal goffa yn y Fynwent Newydd, Rhuddlan neu Mynwent Maeshyfryd, Ffordd Dyserth, Y Rhyl.

Holi ynghylch mynwent

Gallwch wneud ymholiad ynghylch mynwent ar-lein mewn perthynas â’r canlynol:

  • Ymholiadau cyffredinol
  • Materion cynnal a chadw
  • Canfod bedd rhywun

Gwneud ymholiad ynghylch mynwent ar-lein

Faint mae o’n ei gostio?

Mae cost ein gwasanaethau mynwent i’w cael drwy ddarllen ein rhestr ffioedd.

Ffioedd gwasanaethau mynwent (PDF, 153KB)

Claddedigaethau Mwslimaidd

Mae ardal Gladdu Fwslimaidd ym Mynwent Coed Bell, Prestatyn.

Cofebau cerrig coffa

Dim ond seiri maen cofebion cofrestredig BRAMM y byddwn yn eu caniatáu i weithio yn ein mynwentydd. Mae’n rhaid ffitio pob cofeb yn unol â Safon Brydeinig 8415. Gweler rheolau’r cofebion i gael mwy o wybodaeth.

Rheolau cofebion

Claddedigaethau Coetir

Mae Mynwent Coed Bell, Prestatyn (ar fryn uwchlaw’r fynwent bresennol, yn edrych dros Fôr Iwerddon/Aber Afon Dyfrdwy), Mynwent Dinbych, Ystrad Road, (ochr yn ochr â'r fynwent bresennol) a Mynwent y Llwyn, Llanelwy (mewn safle gwledig) ag ardaloedd claddu coetir.  

Cofebau Eraill

Gellir rhoi placiau coffa mewn gwely rhosod neu ar wal neu gellir plannu coeden gyda phlac cyflwyno. Gellir trefnu i roi plac ar feinciau coffa sy’n bod yn barod drwy’r swyddog mynwentydd, cyn belled â bod gofod addas ar gael. Ni ellir rhoi unrhyw feinciau newydd yn y mynwentydd. Llenwch ffurflen gais am cofebau eraill.

Ffurflen gais am cofebau eraill 

Amlosgiadau

Yr unig amlosgfa yn Sir Ddinbych yw Amlosgfa a Parc Coffa Sir Ddinbych (gwefan allanol) yn Llanelwy (Gwefan dim ond ar gael yn Saesneg)

Dyma'r amlosgfeydd agosaf tu allan i Sir Ddinbych: