Bydd yr Archwiliwr Meddygol (gwefan allanol) yn cyflwyno Tystysgrif Feddygol o Achos Marw o Achos Marwolaeth (MCCD) i’r Cofrestrydd.
Mae’r Archwiliwr Meddygol yn craffu’n annibynnol ar holl farwolaethau na chânt eu hymchwilio gan y crwner. Bydd yr Archwilydd Meddygol yn sicrhau bod achos marwolaeth cywir yn cael ei gofnodi, yn nodi unrhyw bryderon o ran y farwolaeth ei hun a ellir yna ei ymchwilio ymhellach gan y darparwr gofal neu’r Crwner os oes angen, a chymryd safbwyntiau’r galarwyr i ystyriaeth. Bydd yr Archwilydd Meddygol yn cysylltu gyda’r perthynas agosaf cyn cyflwyno’r Dystysgrif Feddygol o Achos Marw o Achos Marwolaeth i’r Cofrestrydd.
Os fydd y farwolaeth wedi digwydd yn Sir Ddinbch a’r Archwilydd Meddygol wedi cyflwyno’r MCCD, bydd y Swyddfa Gofrestru yn cysylltu â chi i wneud apwyntiad i gofrestru’r farwolaeth.
Pwy all gofrestru marwolaeth
Gweler isod y rhestr o unigolion a all gofrestru marwolaeth:
- Perthynas neu bartner
- Rhywun a oedd yn bresennol yn ystod y farwolaeth
- Meddiannydd sefydliad cymunedol
- Yr unigolyn sy’n trefnu’r angladd os nad oes perthnasau ar gael
I baratoi ar gyfer yr apwyntiad cofrestru marwolaeth, sicrhewch eich bod yn gwybod y wybodaeth a restrir isod. Efallai y bydd yn ddefnyddiol ysgrifennu hyn i lawr ymlaen llaw, neu gael dogfennau megis pasbort, tystysgrif geni a thystysgrif priodi (os yw’n gymwys) wrth law.
Manylion yr ymadawedig:
- Dyddiad a lleoliad y farwolaeth
- Enw cyntaf, enwau canol (os yw’n gymwys) a chyfenw
- Unrhyw enwau eraill yr oedd yr ymadawedig yn cael eu galw neu enwau blaenorol
- Enw cyn priodi (os yw’n gymwys)
- Dyddiad a lleoliad geni
- Swydd ac a oeddent wedi ymddeol
- Cyfeiriad
Dywedwch Wrthym Unwaith
Pan fydd rhywun wedi marw, bydd angen i chi roi gwybod i Adrannau Llywodraeth priodol am y farwolaeth.
Pan fyddwch chi'n cofrestru marwolaeth, bydd y cofrestrydd yn ychwanegu manylion yr ymadawedig at gronfa ddata genedlaethol Dywedwch Wrthym Unwaith. Yna bydd y cofrestrydd yn rhoi llythyr i chi sy'n cynnwys cyfeirnod unigryw Dywedwch Wrthym Unwaith a chyfarwyddiadau ar sut i ddefnyddio'r gwasanaeth.
Rhaid i chi ddefnyddio'r gwasanaeth o fewn 28 diwrnod o dderbyn eich rhif cyfeirnod unigryw.
Ewch i GOV.UK - Beth i'w wneud ar ôl i rywun farw (gwefan allanol) i ddarganfod pa wybodaeth neu ddogfennau y bydd angen i chi fod â nhw pan fyddwch chi'n cwblhau ail ran y gwasanaeth.
Ffioedd a thystysgrifau
Bydd yn rhaid i chi wneud apwyntiad yn y Swyddfa Gofrestru a dod â thystysgrif marwolaeth feddygol (gan ddoctor a oedd yn trin yr unigolyn a fu farw) efo chi os ydych chi wedi derbyn un. Bydd gofyn i chi hefyd ddarparu’r wybodaeth ganlynol am yr unigolyn a fu farw. Cost Tystysgrif Marwolaeth yw £12.50.
Gwybodaeth am dderbyn copi o dystysgrif.