Fe gyflwynwyd seremonïau dinasyddiaeth i ddechrau yn Ionawr 2004 o ganlyniad i Ddeddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2002. Gyda’r Ddeddf yma fe ddaeth yn ofyniad cyfreithiol i bob ymgeisydd am ddinasyddiaeth Brydeinig dros 18 oed, gymryd rhan mewn seremoni ddinasyddiaeth, lle maen nhw’n tyngu neu’n cadarnhau llw o deyrngarwch i’r Frenhines ac yn gwneud llw o ymrwymiad i'r Deyrnas Unedig.
Rydyn ni’n gyfrifol am drefnu seremonïau ar gyfer ymgeiswyr llwyddiannus am ddinasyddiaeth sy’n byw neu’n sy’n gofyn am gael cynnal eu seremoni yn Sir Ddinbych
Beth fydd yn digwydd yn y seremoni?
Fe gynhelir y seremoni gan Gofrestrydd Arolygol neu Ddirprwy Gofrestrydd Arolygol. Bydd cadeirydd neu is-gadeirydd Cyngor Sir Ddinbych yn bresennol hefyd i groesawu’r dinesydd newydd, ac yn dilyn y seremoni, yn cyflwyno anrheg goffaol. Bydd Arglwydd Raglen Clwyd, neu ei Ddirprwy, yno hefyd i groesawu’r dinasyddion newydd i’r Deyrnas Unedig, ar ran y Frenhines, ac i gyflwyno’r dystysgrif ddinasyddiaeth, sy’n rhoi hawliau llawn fel Dinesydd Prydeinig. Bydd Uchel Siryf Clwyd yn bresennol hefyd.
Pryd cynhelir seremonïau?
Yn Sir Ddinbych, cynhelir seremonïau dinasyddiaeth bob chwech i wyth wythnos fel arfer. Mae nifer y seremonïau'n dibynnu ar nifer y dinasyddion sy'n cael eu prosesu gan y Swyddfa Gartref. Cynhelir y seremonïau naill ai yn Neuadd y Dref y Rhyl neu yn Neuadd y Sir yn Rhuthun.
Trefnu eich seremoni
Unwaith y bydd y Gwasanaeth Cofrestru wedi derbyn eich Tystysgrif Brodori gan y Swyddfa Gartref, byddwn yn anfon e-bost atoch i ofyn a fyddai'n well gennych fynychu seremoni grŵp neu seremoni breifat.
Beth ddylech chi ddod gyda chi i'r seremoni ddinasyddiaeth?
Dewch â'ch e-bost neu lythyr gwahoddiad i seremoni ddinasyddiaeth gan Fisâu a Mewnfudo y DU gyda chi.
A oes ffi am fynychu seremoni ddinasyddiaeth grŵp?
Nid oes tâl am fynychu seremoni grŵp. Fodd bynnag, os byddwch yn dewis cael seremoni breifat, bydd ffi o £190 yn daladwy pan fyddwch chi'n trefnu eich seremoni.