Lleoedd mewn dosbarth meithrin

Gall plant fynychu dosbarth meithrin y mis Medi ar ôl eu pen-blwydd yn 3 oed. Nid yw cael lle mewn dosbarth meithrin mewn ysgol benodol yn gwarantu lle i’ch plentyn mewn dosbarth derbyn yn yr ysgol honno. Bydd angen i chi wneud cais newydd ar gyfer lle mewn dosbarth derbyn.

O 25 Medi 2023 bydd modd gwneud cais am le mewn dosbarth meithrin yn 2024 i blant wedi eu geni rhwng 1 Medi 2020 a 31 Awst 2021.

Gwneud cais am le mewn dosbarth meithrin ar-lein

Llenwch y ffurflen gais os cafodd eich plentyn ei eni rhwng 1 Medi 2020 a 31 Awst 2021.

Os oes arnoch chi eisiau symud eich plentyn o un ysgol i ysgol arall, llenwch y ffurflen gais ar gyfer trosglwyddiadau ysgol.

Canllawiau gwybodaeth ysgolion