Dechrau'n Deg

Mae Dechrau'n Deg Sir Ddinbych yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer plant hyd at eu pen-blwydd yn 4 oed a'u rhieni/gofalwyr, sy'n byw mewn ardaloedd cod post penodol yn Sir Ddinbych. Nod y rhaglen yw helpu plant i gael y cychwyn gorau posibl yn eu bywyd o ran eu twf a’u datblygiad.

Sut i wirio a ydych yn gymwys am y rhaglen Dechrau'n Deg

Mae'r rhaglen Dechrau'n Deg ar gael i drigolion sy’n byw mewn ardaloedd cod post penodol.

Mae rhan o raglen Dechrau’n Deg ar gael i rannau o Allt Melyd a Phrestatyn bellach. Dim ond ar gyfer Gofal Plant Dechrau'n Deg mae’r ardaloedd hynny’n gymwys.

Gwiriwch os yw eich côdpost yn y rhaglen Dechrau’n Deg

Gwasanaethau Dechrau'n Deg

Mae’r gwasanaethau isod ar gael am ddim i deuluoedd sy’n gymwys ar gyfer y rhaglen Dechrau'n Deg.

Gofal Plant Dechrau'n Deg

Mae Gofal Plant Dechrau'n Deg ar gael i ddarparu hyd at 12 awr a hanner o ofal plant am ddim bob wythnos yn ystod tymor yr ysgol i deuluoedd sy’n gymwys ar gyfer rhaglen Dechrau'n Deg.

Bydd modd i deuluoedd sy’n gymwys ar gyfer y rhaglen Dechrau'n Deg yn un o’r ardaloedd canlynol wneud cais am Ofal Plant Dechrau'n Deg o ddydd Mercher 7 Mehefin 2023:

  • Gallt Melyd
  • Dwyrain Prestatyn
  • De-orllewin Prestatyn

Mwy o wybodaeth am Ofal Plant Dechrau’n Deg

Dewiswch wasanaeth i wybod mwy.

Gwasanaeth Ymwelydd Iechyd Uwch

Mae ein Ymwelwyr Iechyd Dechrau'n Deg yn cynnig cefnogaeth ychwanegol i rymuso rhieni/gofalwyr i wella canlyniadau bywyd ac iechyd ar gyfer eu plant.

Darperir y gefnogaeth hon drwy ymweliadau â’r cartref, lle mae Ymwelwyr Iechyd yn rhoi cyngor addas i’r teulu yn ogystal â monitro ac asesu cynnydd y plentyn. Mae hyn yn helpu nodi unrhyw anghenion sydd gan y plentyn neu’r teulu yn gynnar, ac felly’n ei gwneud yn haws i ymateb i’r anghenion hynny.

Mae Ymwelwyr Iechyd yn cynnig cyngor a chymorth ar ystod eang o faterion gan gynnwys

  • Paratoi ar gyfer y babi
  • Bwydo ar y Fron
  • Sut i gael mynediad i gefnogaeth
  • Iechyd a lles emosiynol.
  • Maetheg
  • Diogelwch yn y cartref
  • Diddyfnu
  • Bwydo babanod
  • Delio â babi'n crio
  • Iechyd Deintyddol
  • Imiwneiddio

Hefyd rydym yn cynnig clinigau galw heibio i rieni gael gweld gweithwyr iechyd proffesiynol.

Cymorth Rhianta

Mae cymorth rhianta ar gael i chi gan ein Nyrsys Meithrin Cymunedol Dechrau'n Deg a Gweithwyr Cefnogi Teuluoedd a gellir cael mynediad iddo mewn grŵp neu ar sail 1 i 1 i helpu rhieni ddatblygu eu sgiliau ymhellach o ran rheoli a deall ymddygiad eu plant, gosod ffiniau, sefydlu arferion yn y cartref, chwarae a rhyngweithio gyda’u plant a maetheg iach. Mae’r rhain oll yn helpu magu hyder a hunan-barch y rhieni. Gallwn hefyd gynnig cefnogaeth ddwys o fewn y cartref i helpu gydag anawsterau fel dysgu defnyddio’r toiled, ymddygiad, diogelwch a chysgu.

Ar hyn o bryd rydym yn cynnig rhaglenni grŵp mewn

  • Magu
  • Tylino Babanod
  • Dewch i Goginio
  • Aros a Chwarae
  • Dechrau Da
  • Academi Nofio
  • Nofio cyn-geni
  • Cerdded a Rowlio
  • Rhaglen Blynyddoedd Rhyfeddol i Blant Bach
  • Iaith a Chwarae

Hefyd rydym yn cynnig clinigau galw heibio i rieni gael gweld gweithwyr iechyd proffesiynol.

Ymweliadau Cartref Portage

Mae Portage yn wasanaeth cymorth yn y cartref ar gyfer plant cyn-ysgol sydd ag anghenion ychwanegol. Nod y Gwasanaeth Portage yw cefnogi datblygiad Sgiliau Dysgu Cynnar.

Mae’r cymorth a gynigir i rieni wedi’i seilio ar yr egwyddor fod rhieni yn ffigyrau allweddol yng ngofal a datblygiad eu plentyn, a nod Portage yw helpu a chefnogi rhieni yn y swyddogaeth hon, beth bynnag fo anghenion eu plentyn.

Sut mae Portage yn gweithio

Fel arfer, mae Gweithiwr Portage cymwys fel arfer yn ymweld â theuluoedd yn wythnosol am oddeutu awr yn y cartref. Yn ystod yr ymweliad, gallwn sgwrsio am allu ac anghenion cefnogaeth eich plentyn fel y gallwn weithio ar y rhain gyda’n gilydd.

Gallwch ymarfer y sgiliau hyn rhwng ymweliadau, gan weithiau ddefnyddio offer y bydd y Gweithiwr Portage yn ei adael gyda chi. Gellir cadw cofnod neu ddyddiadur o'r gweithgaredd i'ch atgoffa o'r gweithgaredd a'r hyn a ddigwyddodd rhwng yr ymweliadau, fel y gallwn gynllunio'r camau nesaf gyda'n gilydd. Bydd y Gweithiwr Portage yn cadw proffil o gynnydd y plentyn sy’n cael ei rannu gyda chi, goruchwyliwr y gweithiwr a’r Seicolegydd Addysg sy’n goruchwylio’r gwasanaeth ar y cyd.

Meini prawf:

  • Mae Rhieni / Gofalwyr yn barod i ymrwymo i’r Gwasanaeth a’r ymweliadau wythnosol â’r cartref.
  • Mae plant yn profi oedi mewn dau neu ragor o feysydd datblygiad.
  • Mae’r plant dan 4 oed.
  • Bydd plant yn cael eu cyfeirio drwy eu Hymwelydd Iechyd.
Chwerthin a Dysgu

Mae Chwerthin a Dysgu yn wasanaeth addysgol sy’n ymweld â’r cartref ar gyfer plant cyn oed ysgol i gefnogi rhieni/ gofalwyr i fod yn fwy hyderus wrth gefnogi addysg eu plant, drwy weithgareddau chwarae a helpu plant i fod yn barod ar gyfer yr ysgol.

Sut mae Chwerthin a Dysgu yn gweithio?

Mae gweithiwr datblygiad plant cymwys yn ymweld â theuluoedd yn wythnosol am 4 wythnos, a bydd yn dod â gweithgareddau chwarae i chi a’ch plentyn i’w rhannu a chael hwyl gyda nhw. Byddant yn darganfod beth yw cryfderau cyfathrebu eich plant drwy ddefnyddio’r sgrin “WELLCOMM” a phenderfynu beth allai “camau nesaf" eich plentyn fod.

Ar gyfer pwy mae Chwerthin a Dysgu?

Unrhyw blentyn dros 12 mis y byddai’n well gan eu rhieni/gofalwyr beidio a mynd i grŵp ar hyn o bryd ac yr hoffent ddarganfod mwy am gefnogi dysg eu plant.

Gofal Plant

Mae Gofal Plant Dechrau'n Deg yn 2½ diwrnod o ofal plant yn un o’n grwpiau chwarae partner, Cylchoedd neu Feithrinfeydd Dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod y tymor yn Sir Ddinbych. Ni chodir unrhyw dâl ar y rhieni / gofalwyr. Mae amseroedd y sesiynau’n dibynnu ar ba leoliad rydych yn ei ddewis, ond bydd fel rheol o 9:00am-11:30am neu 13:00pm-15.30pm (holwch aelod o’r tîm)

Beth yw nod Gofal Plant Dechrau'n Deg?

Adeiladu ar a chefnogi’r holl bethau rydych chi eisoes wedi eu dysgu i’ch plentyn! Mae'n gyfle i’ch plentyn arfer chwarae mewn grŵp mwy, cymryd troeon, gwneud ffrindiau a datblygu eu sylw, sgiliau meddwl a gwrando, y cyfan wrth archwilio a chael hwyl!! Byddant yn dysgu caneuon newydd a rhoi cynnig ar bethau newydd.

Sut ydw i’n derbyn Gofal Plant Dechrau'n Deg?

Ar adeg pen-blwydd eich plentyn yn 2 oed, bydd aelod o’r tîm gofal plant yn dod i ymweld â chi a’ch plentyn gartref. Byddwn yn sgwrsio am y lleoliadau sydd ar gael, ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych ac yn darganfod beth yw cryfderau cyfathrebu eich plentyn gan ddefnyddio’r sgrin “WELLCOMM”. Bydd hyn yn eich helpu chi a’r lleoliad gofal plant i wybod beth allai “camau nesaf” eich plentyn fod

Ar gyfer pwy mae Gofal Plant Dechrau'n Deg?

Unrhyw blant sydd wedi cofrestru gyda Dechrau'n Deg o’r tymor ysgol ar ôl eu pen-blwydd yn 2 oed hyd at y tymor ysgol ar ôl eu pen-blwydd yn 3 oed.

Therapyddion Iaith a Lleferydd

Mae Therapydd Iaith a Lleferydd Dechrau'n Deg yn cynnig cefnogaeth i rieni / gofalwyr a staff sy’n gweithio gyda phlant ifanc i sicrhau y gallant hwyluso sgiliau lleferydd, cyfathrebu, iaith a chysylltiedig eich plant. Mae hyn hefyd yn ei gwneud yn bosibl i nodi plant gyda’r anghenion mwyaf yn y meysydd hyn.

Mae’r gwasanaeth a ddarperir yn cynnwys sesiynau gollwng ac asesu, datblygu Cynlluniau Cyfathrebu Unigol, Therapi Rhyngweithiad Rhieni a Phlant, a chefnogaeth ar gyfer Grwpiau Dechrau'n Deg.

Mae’r Therapyddion Iaith a Lleferydd hefyd yn cynnig hyfforddiant i rieni a staff perthnasol, mae hyn yn cynnwys cyrsiau Elkan, hyfforddiant mewn asesiad BRISC (angen gwirio gyda HEV) a hyfforddiant Makaton

Tîm Gweithwyr Teuluoedd

Mae'r Tîm Gweithwyr Teuluoedd yn rhoi cefnogaeth i deuluoedd gyda:

  • Diogelwch yn y cartref
  • Adeiladu eich rhwydwaith gefnogaeth
  • Bwyta’n iach
  • Cymorth Cyntaf i deuluoedd gyda phlant ifanc

Gall y tîm hefyd gynorthwyo teuluoedd i gael mynediad at wasanaethau eraill Dechrau'n Deg a phethau fel cyngor ariannol, cymorth tai, help gyda pherthnasoedd a chefnogaeth ar gyfer y rhai hynny sy’n chwilio am gyfleoedd dysgu neu gyflogaeth.

Byddant fel arfer yn ymweld â chi yn eich cartref eich hun ac yn eich helpu chi ddeall pa fathau o gefnogaeth sydd ei angen arnoch fwyaf a sut i’w gael.

Gwasanaethau Bydwreigiaeth

Mae plant iach yn dechrau gyda mamau iach’ mae Gwasanaeth Bydwreigiaeth Dechrau'n Deg felly’n cynnig gofal a chefnogaeth ychwanegol i helpu mamau beichiog a’u teuluoedd yn ystod beichiogrwydd. Mae cefnogaeth hefyd yn cael ei ddarparu ar ôl genedigaeth ac mae’r tîm yn gweithio’n agos iawn gyda staff Dechrau'n Deg fel Ymwelwyr Iechyd, Nyrsys Meithrin Cymunedol a Therapyddion Iaith a Lleferydd.

Nod y gwasanaeth yw cael cyswllt cynnar gyda merched yn ystod beichiogrwydd gan y gall hyn gael effaith fuddiol ar gynnydd beichiogrwydd ac felly iechyd y plentyn yn y dyfodol.

Mae’r Gofal a’r gefnogaeth a ddarperir gan y Bydwragedd a Gweithwyr Cefnogi Mamolaeth yn cynnwys gofal cynenedigol drwy apwyntiadau neu gyfleuster ‘galw heibio' a sesiynau 'paratoi am roi genedigaeth' i gyplau, merched sengl, plant yn eu harddegau a’u rheini.

Nod y gwasanaeth yw bod yn hyblyg i ddiwallu anghenion merched a’u teuluoedd, ac mae’n gyfeillgar i ddefnyddwyr ac o fewn cyrraedd hawdd.

Cofrestrwch eich diddordeb i ddarparu Addysg Gynnar – 10 awr o addysg am ddim

Os ydych yn ddarparwr gofal plant ac wedi’ch cofrestru gydag Estyn a/neu Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), gallwch gofrestru eich diddordeb mewn darparu Dechrau’n Deg a/neu Addysg Gynnar – 10 awr o addysg am ddim.

Rhaid i ddarparwyr gofal plant fod wedi cofrestru gyda Gofal Arolygiaeth Cymru i ddarparu menter Dechrau’n Deg.

Rhaid i ddarparwyr gofal plant fod wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac Estyn i ddarparu Addysg Gynnar – 10 awr o addysg am ddim. Os ydi darparwr gofal plant wedi cofrestru gyda’r Arolygiaeth ond ddim gydag Estyn, bydd disgwyl i’r darparwr gofrestru gydag Estyn yn dilyn cais llwyddiannus.

Cofrestrwch eich diddordeb mewn darparu gwasanaethau Addysg Gynnar neu Dechrau'n Deg

Tudalen Facebook Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau'n Deg

Gallwch gael diweddariadau a chael mwy o wybodaeth ar ein tudalen Facebook Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau'n Deg

Edrych ar ein tudalen Facebook Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau'n Deg (gwefan allanol)