Hyfforddiant GGD: Cymorth Cyntaf Pediatrig (cwrs 12 awr)
Mae’r cwrs Cymorth Cyntaf Pediatrig 12 awr yn darparu cymhwyster Cymorth Cyntaf Pediatrig i gydymffurfio gyda Safonau Gofynnol Cenedlaethol (SGC) Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).
Dan SGC AGC, mae’n ofynnol fod gan 1 aelod o staff i bob 10 o blant mewn lleoliad gofal plant y cymhwyster Cymorth Cyntaf Gofal Plant hwn. Er enghraifft, byddai angen i 7 aelod o staff o leiaf gael y cymhwyster mewn lleoliad sydd wedi cofrestru 70 o blant.
Mae’r cwrs hwn yn trafod nifer o bynciau, gan gynnwys:
- Rôl Swyddog Cymorth Cyntaf Pediatrig
- Adnabod a Rheoli Ffitiau
- Adnabod a Rheoli Argyfyngau Diabetig
- Adnabod a Rheoli Tagu
- Adnabod a Rheoli Asthma
- Ymdrin ag, a rheoli unigolyn anymwybodol
- Perfformio dadebriad (CPR gan gynnwys defnydd AED yn ddiogel)
- Adnabod arwyddion o meningitis
- Rheoli a thrin anafiadau, gwaedu a sioc
- Adnabod a rheoli confylsiyanu twymyn
- Adnabod a rheoli adweithiau alergaidd gan gynnwys sioc anaffylactig
- Adnabod a rheoli torasgwrn
- Adnabod a rheoli anafiadau i’r pen, y gwddf a’r cefn
- Rheoli anafiadau i’r llygaid, clustiau a’r wyneb
Caiff y cymhwyster ei asesu drwy arddangosiadau ymarferol a chwblhau cwestiynau ysgrifenedig.
Mae’n rhaid i ddysgwyr fynychu a chwblhau pob sesiwn i ennill y cymhwyster.
Mae'r cymhwyster yn ddilys am dair blynedd.
Pryd a lle fydd y cyrsiau’n digwydd?
Mae’r Cwrs Cymorth Cyntaf Pediatrig 12 awr yn cael ei gynnal:
- Ddydd Sadwrn, 14 a 21 Hydref 2023 rhwng 9:30am a 4:30pm ym Meithrinfa Ddydd Corwen
- Dydd Sadwrn, 2 a 9 Rhagfyr 2023 rhwng 9:30am a 4:30pm yng Nghanolfan y Dderwen, y Rhyl - wedi archebu yn llawn
- Dydd Sadwrn, 10 ac 17 Chwefror 2023 rhwng 9:30am a 4:30pm yng Nghanolfan y Dderwen, y Rhyl
Gwybodaeth am y lleoliad
Meithrinfa Ddydd Corwen
Gwybodaeth am y Lleoliad am Meithrinfa Ddydd Corwen
Cyfeiriad Meithrinfa Ddydd Corwen yw
Oddi ar Lon Werdd
Corwen
LL21 0DN
Parcio
Mae maes parcio yng Meithrinfa Ddydd Corwen.
Canolfan y Dderwen, y Rhyl
Gwybodaeth am y Lleoliad am Nghanolfan y Dderwen
Cyfeiriad Canolfan y Dderwen yw
Fforddlas
Y Rhyl
LL18 2DY
Parcio
Mae maes parcio yng Nghanolfan y Dderwen.
Cyfleusterau ar gyfer pobl anabl
Mae gan Ganolfan y Dderwen:
- Doiledau hygyrch
- Parcio hygyrch
- Dolen clyw
- Lifft
- Drysau awtomatig
- Mynediad ar rampiau/mynediad ar lefel
Pwy gaiff fynychu?
Mae’r cwrs hwn ar gyfer pob darparwr gofal plant cofrestredig yn Sir Ddinbych sydd wedi cofrestru, neu sydd yn cofrestru, gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) (gwefan allanol).
Rhaid i'r lleoliad hefyd fod wedi'i gofrestru gyda Dewis.Cymru (gwefan allanol)
Sut i gymryd rhan
Codir tâl o £70 y pen i fynychu’r cwrs hwn a bydd angen i bob unigolyn sydd am fynychu lenwi’r ffurflen gais ar-lein i gadw lle.
Ar ôl derbyn cais i gadw lle, byddwn yn anfon anfoneb i’r darparwr gofal plant, y mae’n rhaid ei dalu cyn mynychu’r cwrs.
Ffurflen archebu lle ar lein ar gyfer y Cwrs Cymorth Cyntaf Pediatrig 12 awr
Rhagor o wybodaeth
Caiff y cwrs hwn ei ddarparu gan Groundwork North Wales (gwefan allanol).
Canslo Archeb
Os ydych angen canslo archeb yna rhaid canslo eich lle o leiaf dau ddiwrnod gwaith cyn i’r cwrs gael ei gynnal. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu os na fyddwch yn canslo eich archeb mewn da bryd.
Canslo archeb ar-lein
Manylion lleoliad gofal plant ar Dewis Cymru
Mae’n bwysig eich bod chi’n diweddaru manylion eich lleoliad gofal plant ar Dewis Cymru.
Darganfod sut i ddiweddaru’ch manylion ar Dewis Cymru