Hyfforddiant GGD: Diogelu Uwch i Arweinwyr Diogelu Dynodedig, Grŵp C
Mae hyfforddiant Diogelu Uwch Grŵp C yn helpu pobl i ddeall y broses ddiogelu mewn mwy o fanylder.
Mae’r hyfforddiant yn defnyddio ystod o weithgareddau ysgrifenedig ac ymarferion rhyngweithiol i helpu i ddatblygu’r gweithdrefnau diogelu plant o fewn y lleoliad a sicrhau fod bob aelod o staff yn deall eu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu plant.
Mae’r hyfforddiant yn cynnwys pynciau sy’n ymwneud â:
- honiadau o gam-drin yn erbyn aelod o staff a sut i ymdrin â’r rhain
- deall deddfwriaethau a chanllawiau allweddol sy’n ategu at bolisi’r lleoliadau ar gyfer diogelwch a lles plant
- rolau i’w chwarae yn y broses ddiogelu plant amlasiantaeth gan gynnwys cynadleddau achos
- darparu adroddiadau ysgrifenedig
Mae’r hyfforddiant yma’n cael ei ddarparu dros ddeuddydd, ac mae’n rhaid i chi fynychu’r ddau ddiwrnod i gwblhau’r hyfforddiant.
Pryd a lle fydd y cyrsiau’n digwydd?
Mae hyfforddiant Diogelu Uwch Grŵp C i Arweinwyr Diogelu Dynodedig yn cael ei gynnal ar:
- Dydd Mawrth 17, Dydd Mercher 18 and Dydd Iau 19 Mawrth 2026 a 6:15pm tan 9pm, yn Canolfan y Dderwen, y Rhyl - wedi'i archebu'n llawn
- Dydd Sadwrn 21 a Dydd Sadwrn 28 Mawrth 2026 a 9:30am tan 2:30pm, yn Canolfan y Dderwen, y Rhyl
- Dydd Mawrth 13 a Dydd Mercher 14 Hydref 2026, o 9:30am tan 2:30pm, yn Canolfan Naylor Leyland, Rhuthun
- Dydd Sadwrn 23 a Dydd Sadwrn 30 Ionawr 2027, o 9:30am tan 2:30pm yn Canolfan y Dderwen, y Rhyl
- Dydd Sadwrn 13 a Dydd Sadwrn 20 Chwefror 2027, o 9:30am tan 2:30pm, yn Canolfan Naylor Leyland, Rhuthun
Gwybodaeth am y lleoliad
Canolfan Naylor Leyland
Gwybodaeth am Canolfan Naylor Leyland
Cyfeiriad Canolfan Naylor Leyland yw:
55 Well Street,
Rhuthun
LL15 1AF
Parcio
Mae maes parcio yn Canolfan Naylor Leyland.
Canolfan y Dderwen, y Rhyl
Gwybodaeth am y Lleoliad am Nghanolfan y Dderwen
Cyfeiriad Canolfan y Dderwen yw
Fforddlas
Y Rhyl
LL18 2DY
Parcio
Mae maes parcio yng Nghanolfan y Dderwen.
Cyfleusterau ar gyfer pobl anabl
Mae gan Ganolfan y Dderwen:
- Doiledau hygyrch
- Parcio hygyrch
- Dolen clyw
- Lifft
- Drysau awtomatig
- Mynediad ar rampiau/mynediad ar lefel
Pwy gaiff fynychu?
Mae’r cwrs hwn ar gyfer Arweinwyr Diogelu Dynodedig mewn lleoliadau gofal plant yn Sir Ddinbych sydd wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn unig (gwefan allanol).
Rhaid i'r lleoliad hefyd fod wedi'i gofrestru gyda Dewis.Cymru (gwefan allanol)
Sut i gymryd rhan
Bydd angen i bob Arweinydd Diogelu Dynodedig Plant sydd am fynychu lenwi’r ffurflen gais ar-lein i gadw lle.
Ar ôl cael y cais i gadw lle byddwn yna’n anfon e-bost yn cadarnhau gyda manylion eich cwrs hyfforddi.
Ffurflen gais ar-lein i gadw lle ar gyfer Diogelu Uwch Grŵp C i Arweinwyr Diogelu Dynodedig
Rhagor o wybodaeth
Caiff y cwrs hwn ei ddarparu gan Groundwork North Wales (gwefan allanol).
Canslo Archeb
Os ydych angen canslo archeb yna rhaid canslo eich lle o leiaf dau ddiwrnod gwaith cyn i’r cwrs gael ei gynnal. Codir tâl arnoch chi, neu'ch lleoliad gofal plant, os na fyddwch yn canslo archeb mewn pryd.
Canslo archeb ar-lein
Manylion lleoliad gofal plant ar Dewis Cymru
Mae’n bwysig eich bod chi’n diweddaru manylion eich lleoliad gofal plant ar Dewis Cymru.
Darganfod sut i ddiweddaru’ch manylion ar Dewis Cymru