Hyfforddiant GGD: Ymwybyddiaeth Diogelwch Tân a Chodi a Symud yn Gorfforol ar gyfer staff sy’n gweithio mewn Lleoliadau Blynyddoedd Cynnar
Mae’r gweithdy rhyngweithiol hwn yn para dwy awr a hanner ac yn helpu dysgwyr i fod yn ymwybodol o Ddiogelwch a Rhagofalon Tân ac o Godi a Symud yn Gorfforol mewn lleoliadau Blynyddoedd Cynnar yn unol â’r ddeddfwriaeth bresennol, rheoliadau ac ymarfer da.
Erbyn diwedd y gweithdy, bydd y dysgwyr yn:
- ymwybodol o ddeddfwriaeth rheoliadau ac ymarfer da presennol
- gallu nodi peryglon tân mewn lleoliadau Blynyddoedd Cynnar
- gallu deall rôl staff o ran atal tân
- gallu deall rôl a chyfrifoldebau staff os oes tân yn digwydd
- gallu nodi tasgau codi a symud yn gorfforol o fewn y gweithle
- gallu lleihau risgiau wrth godi a symud yn gorfforol
Pryd a lle fydd y cyrsiau’n digwydd?
Cynhelir y cwrs hwn ddydd Mercher 28 Ebrill, o 6:30pm tan 9pm yng Nghanolfan y Dderwen, Y Rhyl.
Gwybodaeth am y lleoliad
Canolfan y Dderwen
Gwybodaeth am y Nghanolfan y Dderwen
Cyfeiriad Canolfan y Dderwen yw
Fforddlas
Y Rhyl
LL18 2DY
Parcio
Mae maes parcio yng Nghanolfan y Dderwen.
Cyfleusterau ar gyfer pobl anabl
Mae gan Ganolfan y Dderwen:
- Doiledau hygyrch
- Parcio hygyrch
- Dolen clyw
- Lifft
- Drysau awtomatig
- Mynediad ar rampiau/mynediad ar lefel
Pwy gaiff fynychu?
Mae’r cwrs hwn ar gyfer Arweinwyr Diogelu Dynodedig mewn lleoliadau gofal plant yn Sir Ddinbych sydd wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn unig (gwefan allanol).
Rhaid i'r lleoliad hefyd fod wedi'i gofrestru gyda Dewis.Cymru (gwefan allanol)
Sut i gymryd rhan
Codir tâl o £15 y pen i fynychu’r cwrs hwn a bydd angen i bob unigolyn sydd am fynychu lenwi’r ffurflen gais ar-lein i gadw lle.
Ar ôl cael y cais i gadw lle byddwn yna’n anfon e-bost yn cadarnhau gyda manylion eich cwrs hyfforddi.
Ymwybyddiaeth Diogelwch Tân a Chodi a Symud yn Gorfforol ar gyfer staff sy’n gweithio mewn Lleoliadau Blynyddoedd Cynnar
Rhagor o wybodaeth
Caiff y cwrs hwn ei ddarparu gan Groundwork North Wales (gwefan allanol).
Canslo Archeb
Os ydych angen canslo archeb yna rhaid canslo eich lle o leiaf dau ddiwrnod gwaith cyn i’r cwrs gael ei gynnal. Codir tâl arnoch chi, neu'ch lleoliad gofal plant, os na fyddwch yn canslo archeb mewn pryd.
Canslo archeb ar-lein
Manylion lleoliad gofal plant ar Dewis Cymru
Mae’n bwysig eich bod chi’n diweddaru manylion eich lleoliad gofal plant ar Dewis Cymru.
Darganfod sut i ddiweddaru’ch manylion ar Dewis Cymru