Hyfforddiant GGD: Lefel 2 Ymwybyddiaeth o Alergedd (cwrs ar-lein)

Mae’r Cwrs Ymwybyddiaeth o Alergedd Lefel 2 i bawb sy’n cynllunio, goruchwylio, coginio a gweini bwyd mewn lleoliad gofal plant.

Achredwyd yn llawn gan QUALIFI, Sefydliad Dyfarnu Rheoledig Swyddfa Rheoleiddio Cymwysterau ac Arholiadau, mae’r cwrs hwn yn rhoi dealltwriaeth dda o’r bygythiadau gan y 14 alergen bwyd allweddol a enwyd yn y newidiadau  diweddar yn y ddeddfwriaeth. Mae hefyd yn egluro rhwymedigaethau cyfreithiol y DU a beth i’w wneud os bydd yna amheuaeth o ddigwyddiad alergedd bwyd (sioc anaffylactig).

Mae’r cwrs yn cynnig mynediad i arholiad ar-lein anghyfyngedig am ddim sy’n arwain at gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Dyfarniad Cymeradwyedig) gan Sefydliad Dyfarnu Rheoledig Swyddfa Rheoleiddio Cymwysterau ac Arholiadau (tystysgrif ar gael fel dogfen PDF i’w lawrlwytho), ac mae staff yn datblygu system lwybro. 

Pryd a lle fydd y cyrsiau’n digwydd?

Mae’r cwrs yn cael ei gynnal ar-lein a dylid ei gwblhau o fewn 30 diwrnod o gofrestru'r cod y byddwch yn ei dderbyn ar ôl cofrestru ar gyfer y cwrs.

Pwy gaiff fynychu?

Mae’r cwrs hwn ar gyfer pob darparwr gofal plant cofrestredig yn Sir Ddinbych sydd wedi cofrestru, neu sydd yn cofrestru, gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) (gwefan allanol).

Mae’n rhaid i’r lleoliad hefyd fod wedi’i gofrestru gyda Dewis.Cymru (gwefan allanol)

Sut i gymryd rhan

Codir tâl o £15 y pen i fynychu’r cwrs hwn a bydd angen i bob unigolyn sydd am fynychu lenwi’r ffurflen gais ar-lein i gadw lle.

Ar ôl derbyn cais am archeb, byddwn yn anfon anfoneb at y darparwr gofal plant y mae'n rhaid ei thalu cyn mynychu'r cwrs.

Ffurflen gais archebu ar-lein ar gyfer cwrs Lefel 2 Ymwybyddiaeth o Alergedd

Rhagor o wybodaeth

Caiff y cwrs hwn ei ddarparu gan Safer Food Group (gwefan allanol).

Manylion lleoliad gofal plant ar Dewis Cymru

Mae’n bwysig eich bod chi’n diweddaru manylion eich lleoliad gofal plant ar Dewis Cymru.

Darganfod sut i ddiweddaru’ch manylion ar Dewis Cymru