Hyfforddiant GGD: Rheoli Iechyd a Diogelwch mewn Lleoliadau Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar

Bydd y gweithdy rhyngweithiol hwn sy’n para 3 awr yn helpu dysgwyr i ddod i ddeall cyfrifoldebau a gofynion deddfwriaethol rheoli Iechyd a Diogelwch.

Erbyn diwedd y gweithdy, bydd y dysgwyr yn:

  • ymwybodol o’u cyfrifoldeb cyffredinol
  • gallu darparu cyflwyniad a hyfforddiant parhaus i aelodau staff
  • deall beth sy’n torri rheolau iechyd a diogelwch a chanlyniadau a chosbau posibl gwneud hynny
  • bod ag ymwybyddiaeth o:
    • ddiogelwch tân
    • codi a symud
    • atal a rheoli heintiau
  • dysgu sut i gynnal iechyd a diogelwch da
  • gallu cadw cofnodion  
  • gallu cynnal archwiliadau iechyd a diogelwch mewnol

Pryd a lle fydd y cyrsiau’n cael eu cynnal?

Bydd y cwrs yn cael ei gynnal ar:

  • Ddydd Mawrth 22 Medi 2026, rhwng 6:15pm a 9:15pm yng Nghanolfan y Dderwen, Y Rhyl
  • Dydd Mercher 20 Ionawr 2027, rhwng 6:15pm a 9:15pm yng Nghanolfan Naylor Leyland, Rhuthun

Gwybodaeth am y lleoliad

Canolfan Naylor Leyland

Gwybodaeth am Canolfan Naylor Leyland

Cyfeiriad Canolfan Naylor Leyland yw:

55 Well Street,
Rhuthun
LL15 1AF

Parcio

Mae maes parcio yn Canolfan Naylor Leyland.

Canolfan y Dderwen

Gwybodaeth am y Nghanolfan y Dderwen

Cyfeiriad Canolfan y Dderwen yw

Fforddlas
Y Rhyl
LL18 2DY

Parcio

Mae maes parcio yng Nghanolfan y Dderwen.

Cyfleusterau ar gyfer pobl anabl

Mae gan Ganolfan y Dderwen:

  • Doiledau hygyrch
  • Parcio hygyrch
  • Dolen clyw
  • Lifft
  • Drysau awtomatig
  • Mynediad ar rampiau/mynediad ar lefel

Pwy all fynychu?

Mae’r cwrs hwn wedi’i ddylunio’n benodol ar gyfer perchnogion, rheolwyr, goruchwylwyr ac aelodau pwyllgor y darparwyr gofal plant yn Sir Ddinbych sydd wedi cofrestru neu yn cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) (gwefan allanol).

Mae’n rhaid i’r lleoliad hefyd fod wedi’i gofrestru gyda Dewis.Cymru (gwefan allanol)

Sut i gymryd rhan

Codir tâl o £15 y pen i fynychu’r cwrs hwn a bydd angen i bob unigolyn sydd am fynychu lenwi’r ffurflen gais ar-lein i gadw lle.

Ar ôl cael y cais i gadw lle byddwn yna’n anfon e-bost yn cadarnhau gyda manylion eich cwrs hyfforddi.

Ffurflen gais ar-lein i gadw lle ar gyfer y cwrs Rheoli Iechyd a Diogelwch mewn Lleoliadau Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar

Rhagor o wybodaeth

Caiff y cwrs hwn ei ddarparu gan Groundwork North Wales (gwefan allanol).

Canslo Archeb

Os ydych angen canslo archeb yna rhaid canslo eich lle o leiaf dau ddiwrnod gwaith cyn i’r cwrs gael ei gynnal. Codir tâl arnoch chi, neu'ch lleoliad gofal plant, os na fyddwch yn canslo archeb mewn pryd

Canslo archeb ar-lein

Manylion lleoliad gofal plant ar Dewis Cymru

Mae’n bwysig eich bod chi’n diweddaru manylion eich lleoliad gofal plant ar Dewis Cymru.

Darganfod sut i ddiweddaru’ch manylion ar Dewis Cymru