Hydref 2023
3 Hydref: Croeso cynnes
Croesawu aelodau newydd a’r rhai sy'n dychwelyd. Cael trefn ar unrhyw waith papur, cytuno ar safonau ar gyfer y flwyddyn i ddod a dod yn gyfarwydd â'r adeilad.
Crefft - addurno llyfrau nodiadau a cherrig.
Lluniaeth - sudd ffrwythau, tostenni ham a chaws.
10 Hydref: Helfa drysor
Trafodaeth: Cadw eich cymuned yn daclus a defnyddio biniau sbwriel.
Gweithgaredd: Helfa drysor / cwis o amgylch yr adeilad.
Lluniaeth - sudd ffrwythau, grwpiau bach yn gwneud pocedi pizza bara naan.
17 Hydref: Coginio darbodus
Trafodaeth: Mis Pasta Cenedlaethol a Diwrnod Rhyngwladol Dileu Tlodi.
Gweithgaredd: Cewch goginio pasta o wahanol siapiau a meintiau gyda sawsiau gwahanol.
Lluniaeth - sudd ffrwythau, pasta / saws / caws.
24 Hydref: Sesiwn grefft Calan Gaeaf
Trafodaeth: Diogelwch - cael hwyl heb godi ofn! Rheolau tân gwyllt.
Gweithgaredd: Gwneud masgiau ac addurniadau. Towcio afalau
Edrych ar y briff Dragon’s Den.
Lluniaeth - bwyd ar thema Calan Gaeaf.
Wythnos yn dechrau 30 Hydref: hanner-tymor
Trip sinema i Vue.