
Carchar Rhuthun yw’r ennillwyr o’r wobr Trysor Cudd Visit Wales 2016 a 2017.
Amseroedd agor
Mae Carchar Rhuthun ar agor o fis Ebrill i fis Medi yn ystod yr amseroedd canlynol:
1 Ebrill tan 30 Medi: Dydd Mercher i Ddydd Llun (ar gau dydd Mawrth), 10:30am i 5pm
Mynediad olaf 4.00pm
Rhestr prisiau
Os ydych yn talu’r pris llawn i fynd i Garchar Rhuthun neu Nantclwyd y Dre, cewch 20% oddi ar bris mynediad i’r safle arall wrth ddangos eich derbynneb. Mae hyn yn ddilys am y tymor cyfan.
- Oedolyn: £7.00
- Plant 5 i 16 oed: £6.00
- Plentyn dan 5 oed: am ddim
- Teulu (4 person, o leiaf 1 plentyn): £20.00
- Pobl hŷn (60 oed +): £6.00
- Myfyrwyr: £6.00
- 1 gofalwr yn dod gydag ymwelydd anabl: am ddim
- Clwb Archeolegwyr Ifanc: am ddim
Cysylltu â ni
Stryd Clwyd
Rhuthun
LL15 1HP
E-bost: treftadaeth@sirddinbych.gov.uk
Ymholiadau cyffredinol: 01824 708281 (Ebrill i Medi)
Archebion grŵp ac achlysuron arbennig: 01824 708219
Cyfryngau cymdeithasol
Manylion am Garchar Rhuthun
Carchar Rhuthun ydi un o’r adeiladau mwyaf trawiadol yng Ngogledd Cymru a’r unig garchar yn null Pentonville a adeiladwyd yn bwrpasol, sydd ar agor i’r cyhoedd fel atyniad treftadaeth. Ers yr ail-agoriad ym mis Mai 2002, ar ôl gwaith adfer gwerth dwy filiwn o bunnoedd, gall pobl sbïo i mewn i bob twll a chornel a dysgu am fywyd tu mewn i system carchardai oes Fictoria. Dewch i weld sut roedd y carcharorion yn byw o ddydd i ddydd: beth gawsant i fwyta, pa waith a wnaethant a pha gosbau a ddioddefwyd ganddynt. Archwiliwch y celloedd yn cynnwys y gell gosbi, y gell 'dywyll' a'r gell gondemniad. Dysgwch am 'Houdini' Cymru, a William Hughes, y person olaf i'w grogi yno.
Map o'r lleoliad
Sgipiwch y map gweladwy.