Nantclwyd y Dre: ymweliadau ysgolion
O'r Oesoedd Canol hyd at y 1940au, mae Nantclwyd y Dre yn dod â hanes yn fyw mewn ffordd gyffrous a chofiadwy mewn lleoliad unigryw ar gyfer cyfoethogi a dysgu sy'n gysylltiedig â'r cwricwlwm y tu allan i'r ystafell ddosbarth.
Pynciau addysgol
Mae'r pynciau canlynol yn cael eu trafod ar ymweliadau ysgol:
- gerddi a natur
- detholiad o gyfnodau hanesyddol gan gynnwys
- Y Canol Oesoedd
- Jacobeaidd
- Tuduraidd
- Stiwardaidd
- Sioraidd
- Fictoraidd
- Edwardaidd
- Rhwng y Rhyfeloedd
- rhyfel
Gweithgareddau
Mae yna lawer o weithgareddau y gall disgyblion gymryd rhan ynddynt yn ystod ymweliadau ysgol, gan gynnwys:
- gwneud meddyginiaethau
- gweithgareddau’n seiliedig ar fwyd
- dylunio taith bererindod
- gwneud nodau tudalen
Cyfleusterau
Mae gan Nantclwyd y Dre y cyfleusterau canlynol ar gael:
- ystafell ginio
- toiledau
- deunyddiau dwyieithog
- mynediad di-risiau i'r gerddi a'r llawr gwaelod
Asesiad Risg
Asesiad risg safle ar gael, gall fod angen asesiad risg ychwanegol yn dibynnu ar y grŵp neu’r gweithgareddau.
Yr amser a argymhellir i chi dreulio yma
Mae ymweliad ysgol cyffredin yn Nantclwyd y Dre yn para rhwng 2 a 4 awr.
Teithio mewn bws
Mae'r gweithredwr bysiau lleol Voel Coaches yn cynnig cyfraddau teithio gostyngol i ysgolion lleol. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r cwmni'n uniongyrchol trwy eu gwefan.
Ewch i wefan Voel Coaches (gwefan allanol)
Prisiau ar gyfer ymweliadau ysgol
Mae'r tabl canlynol yn dangos y prisiau ar gyfer ymweliadau ysgol:
Prisiau ymweliadau ysgolion
Prisiau ymweliadau ysgolion | Pris |
Grwpiau ysgol yn ymweld yn ystod oriau agor yr haf |
Disgyblion: £5 yr un Athrawon: am ddim |
Grwpiau ysgol yn ymweld pan fyddwn wedi cau dros y gaeaf |
Disgyblion: £5 yr un Athrawon: am ddim £50 ychwanegol fesul grŵp |
Sut i archebu ymweliad ysgol
Ar gyfer ymholiadau ac i archebu lle, cysylltwch â ni.
Cyfryngau cymdeithasol