Sesiynau Gadewch i ni Chwarae Allan yn ystod tymor yr ysgol
Pwrpas sesiynau Gadewch i ni Chwarae Allan yw bod plant yn cael chwarae, gwneud ffrindiau, a gwneud llanast. Mae’r sesiynau’n rhai ‘mynediad agored’, sy’n golygu bod rhyddid i blant gael mynd a dod.
Mae’r sesiynau hyn yn cael eu harwain gan blant, felly maen nhw’n dewis beth maen nhw eisiau ei wneud, neu pa offer maen nhw’n ei ddefnyddio.

Ar gyfer pwy mae’r sesiynau?
Mae Gadewch i ni Chwarae Allan yn cynnig sesiynau chwarae i blant o 6 i 12 mlwydd oed.
Mae croeso i blant dan 6 oed, ond mae’n rhaid iddyn nhw fod gydag oedolyn.
Pryd a lle fydd y sesiynau’n digwydd?
Dewiswch un o’r ardaloedd canlynol i weld pryd a lle mae’r sesiynau Gadewch i ni Chwarae Allan yn digwydd:
Dyserth
Mae sesiynau Gadewch i ni Chwarae Allan Dyserth yn digwydd bob dydd Iau yn ystod tymor yr ysgol, o 3:15pm i 4:45pm yn Llecyn Gemau Amlddefnydd (MUGA) Dyserth.
Mae sesiynau Gadewch i ni Chwarae Allan Dyserth yn cael eu darparu mewn partneriaeth gyda Chyngor Cymuned Dyserth.
Gwybodaeth am y lleoliad
Nid oes yna gyfleusterau toiled yn y lleoliad yma.
Cyfeiriad
Cyfeiriad Llecyn Gemau Amlddefnydd Dyserth yw:
Rhodfa Thomas
Dyserth
LL18 6AN
Parcio
Mae’r lleoedd parcio’n brin ger Llecyn Gemau Amlddefnydd Dyserth.
Gallt Melyd
Mae sesiynau Gadewch i ni Chwarae Allan Gallt Melyd yn digwydd bob dydd Iau yn ystod tymor yr ysgol, o 3:30pm i 5pm yn Llecyn Gemau Amlddefnydd (MUGA) Gallt Melyd.
Gwybodaeth am y lleoliad
Nid oes yna gyfleusterau toiled yn y lleoliad yma.
Cyfeiriad
Cyfeiriad Llecyn Gemau Amlddefnydd Gallt Melyd yw:
Ffordd Pennant
Meliden
LL19 8PE
Parcio
Mae’r lleoedd parcio’n brin ger Llecyn Gemau Amlddefnydd Gallt Melyd.
Y Rhyl
Mae sesiynau Gadewch i ni Chwarae Allan y Rhyl yn digwydd bob dydd Mawrth yn ystod tymor yr ysgol, o 3:30pm i 5pm yn Ysgol Christchurch.
Gwybodaeth am y lleoliad
Cyfeiriad
Cyfeiriad Ysgol Christchurch yw:
Ernest Street
Y Rhyl
LL18 2DS
Parcio
Ar hyn o bryd nid oes lle i barcio ger Ysgol Christchurch.
Sut i gymryd rhan
Mae’r sesiynau’n rhad ac am ddim i’r plant, ond bydd rhaid i bob plentyn gofnodi ei enw pan fydd yn cyrraedd.
Cyfleusterau ar gyfer plentyn efo Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
Os oes gan eich plentyn Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), rhowch wybod i ni a gallwn wneud y sesiwn yn hygyrch.
Mwy o wybodaeth
Os ydych eisiau mwy o wybodaeth am y sesiwn yma, gellwch gysylltu â’r Gwasanaeth Ceidwaid Chwarae.