Gwybodaeth am Harbwr y Rhyl

Mae Harbwr y Rhyl ar Arfordir ysblennydd Gogledd Cymru ac wedi'i adnewyddu'n sylweddol, sydd wedi gwella'r cyfleusterau sydd ar gael yn fawr. Mae'r iard goed wreiddiol a ddefnyddiwyd gan longau hwylio hyd at yr Ail Ryfel Byd wedi ei hailddatblygu a bellach yn cynnwys lle storio i hyd at 150 o gychod.

Harbwr y Rhyl

Mae llithrfa lansio 65 metr, pontynau a waliau cei newydd hefyd wedi eu gosod fel rhan o'r ailddatblygiad. Bellach mae’r harbwr yn cynnig amrywiaeth o angorfeydd blaen a chefn ac angorfeydd pontŵn. Mae mynediad at y llithrfa ar gael 2.5 awr bob ochr i lanw uchel. Mae'n tîm yn gweithio 7 diwrnod yr wythnos drwy’r flwyddyn.

Yr oriau agor yw 08:00 - 20:00 rhwng mis Mai a Medi (yn ddibynnol ar y llanw) a 09:00 - 17:00 yn ystod misoedd y gaeaf.

Pont Y Ddraig (Noswaith)

Mae pont Feicio / Gerdded anhygoel Pont y Ddraig yn werth ei gweld. Wedi ei hagor ym mis Hydref 2013, mae'r bont yn cau'r bwlch ar Lwybr 5 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, sydd ar hyd arfordir Gogledd Cymru. Mae'r llwybr yn darparu mynediad di draffig at 'Lwybr Arfordir Cymru' yn ogystal ag at gyfleusterau newydd yr Harbwr. Mae'r bont yn agor er mwyn galluogi cychod i fynd i mewn ac allan o'r harbwr ac mae'n cael ei gweithredu o swyddfa'r harbwr yn adeilad y cei.

Dros y ffordd o'r Harbwr mae Marine Lake y Rhyl, sef yr unig lyn dŵr hallt yng ngogledd Cymru. Yn ddeuddeg o hectarau ac yn weddol gysgodol, mae'r Marine Lake yn berffaith ar gyfer dingis hwylio neu gaiacio. Os nad ydych yn rhy hoff o wlychu, beth am fynd am dro o amgylch y Llyn ar ein Llwybr Amgylcheddol newydd, lle gallwch chi ryfeddu ar rywfaint o fywyd gwyllt, rhoi tro ar ddal crancod, neu, beth am daith ar y Rheilffordd Fach sy'n cael ei gweithredu gan Ymddiriedolaeth Cadwraeth Stêm y Rhyl - y rheilffordd hynaf o'i math ym Mhrydain.

Cysylltu â ni

Swyddfa'r Harbwr
Lôn Trwyn Horton
Y Rhyl
Sir Ddinbych
LL18 5AX

Ffôn: 01824 708400

E-bost: rhyl.harbour@denbighshire.gov.uk