Cymorth i ddarllenwyr

Chwilio am y llyfr perffaith nesaf i’w ddarllen? Peidiwch â mynd ymhell! Mae gan aelodau llyfrgell Sir Ddinbych fynediad am ddim i ystod o gymorth darllen wedi’u llunio i’ch helpu i ddod o hyd i’r teitl arbennig sydd yn eich bodloni..

Who Else Writes Like

Gwefan Who else writes like...(gwefan allanol)

Mae ‘Who else writes like’ yn eich helpu i ddod o hyd i awduron sydd yn ysgrifennu'n debyg i'ch hoff awduron.

Who Next

Gwefan Who Next...(gwefan allanol)

Mae ‘Who Next’ yn annog plant a phobl ifanc i ddarllen yn ehangach, drwy awgrymu awduron y byddent yn ei hoffi o bosib. Gellir defnyddio’r arf i arwain plant sydd eisoes wedi mwynhau storïau gan un awdur i ddod o hyd i eraill sydd yn ysgrifennu mewn ffordd tebyg.

Whichbook

Gwefan Whichbook (gwefan allanol)

Whichbook yw’r ffordd orau i addasu eich darllen. Mwy o ramant? Hoffi nofelau trosedd wedi’u lleoli yn Asia? Dim problem! Defnyddiwch y ddewislen i roi eich dewisiadau ac edrychwch ar y canlyniadau!

Gwales

Gwefan Gwales (gwefan allanol)

Gwales yw'r rhestr fwyaf cynhwysfawr o lyfrau o Gymru mewn Cymraeg a Saesneg, gyda manylion llawn, lluniau o'r cloriau ac adolygiadau.

Fantastic Fiction

Gwefan Fantastic Fiction (gwefan allanol)

Chwiliwch ac edrychwch ar lyfryddiaeth i dros 50,000 o awduron nofelau poblogaidd, gyda’r llyfrau diweddaraf a gwybodaeth am gyfresi.