Diwylliant a chreadigrwydd yn eich llyfrgell

Yr Iaith Gymraeg

Mae gennym ddewis gwych o lyfrau, e-lyfrau a llyfrau sain Cymraeg i chi eu mwynhau. Hefyd gallwch ymuno a chymryd rhan mewn grwpiau darllen Cymraeg sy’n cyfarfod yn ein llyfrgelloedd. Mae eich llyfrgell lleol hefyd yn cynnal digwyddiadau Cymraeg megis lansio llyfrau ac ymweliadau gan awduron drwy’r flwyddyn. I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch eich llyfrgell leol.

Ar gyfer dysgwr Cymraeg, mae gan eich llyfrgell popeth yr ydych ei angen, gan gynnwys y staff! Rydym wrth ein boddau yn clywed y Gymraeg yn ein llyfrgelloedd, a bob amser yn hapus i ddarparu gwasanaeth a chymorth dwyieithog, a chyngor ar ddysgu'r iaith, neu sgwrs gyfeillgar yn y Gymraeg.

Hanes Teulu

Defnyddiwch lyfrgelloedd Sir Ddinbych i ganfod eich hanes drwy Ancestry, meddalwedd mapio hanes teulu. Gan ddefnyddio eich cerdyn llyfrgell a rhif PIN, gallwch gael mynediad at Ancestry am ddim yn y llyfrgell i ddod o hyd i wybodaeth am eich teulu a chlywed am storïau gan y cenedlaethau a fu. Mae gan rai lyfrgelloedd glybiau hanes teulu y gallwch ymuno â hwy.

Hanes lleol

Mae hanes cyfoethog yng Nghymru a Sir Ddinbych, ac mae eich llyfrgell leol yma i’ch helpu i ymchwilio.

Eisiau mwy o wybodaeth am hanes eich ardal leol? Mae gan bob un o’n llyfrgelloedd adran sydd gyda llyfrau hanes lleol, sydd yn eich galluogi i weld ychydig o’r gorffennol. Yn ogystal mae’r llyfrgelloedd yn cynnal cyfarfodydd gan grwpiau hanes lleol, lansio llyfrau a sgyrsiau.

Diwylliant a chymuned

Mae eich llyfrgell yn ganolfan i atyniadau, digwyddiadau a gweithgareddau sydd yn cael eu cynnal yn eich ardal. Mae grwpiau lleol a chymdeithasau yn cyfarfod yn y llyfrgell, a hysbysfyrddau cymunedol a ffolder ‘Beth sydd ‘mlaen’, a mynediad ar-lein, gallwch ddod o hyd i’r holl wybodaeth sydd arnoch ei angen i ddathlu eich cymuned. Mae nifer o’n llyfrgelloedd wedi’u dynodi fel Mannau Gwybodaeth i Dwristiaeth, gan ddarparu gwybodaeth ar atyniadau lleol, gan gynnwys mapiau llwybrau tref, a mae nifer o’n staff wedi cael eu hyfforddi Lysgenhadon Twristiaeth.

Gall gwagle yn eich llyfrgell leol fod yn lleoliad perffaith ar gyfer eich digwyddiad cymunedol, cyfarfod grŵp neu brynhawn i ymlacio. Mae gennym ystafelloedd preifat y gallwch eu hurio, a mannau amlbwrpas i chi eu defnyddio.

Gweithio o bell? Cynyddu eich cynhyrchiant drwy ymweld â ni! Mae gennym fannau tawel gyda seddi cyfforddus, cyswllt Wi-Fi am ddim yn ein llyfrgelloedd yn ogystal â gwasanaethau argraffu a llungopïo sydd ar gael am ffi bychan.

Llyfrgell gerddoriaeth

Mae gennym ni gasgliad mawr o gerddoriaeth brint ar gael i’w benthyca i gerddorfeydd, corau ac unigolion. Mae’n cynnwys sgorau sioeau cerdd, sgorau operâu, teitlau offerynnol unigol, libretos a mwy.

Gallwch chwilio am gerddoriaeth brint yng nghatalog y llyfrgell. Nid yw peth o’r casgliad yn y catalog, felly os na allwch ddod o hyd i’r hyn y bydd arnoch ei angen, cysylltwch â ni ar-lein neu ffoniwch ni ar 01824 705274 i weld a ydi o gennym ni.

Os na fydd teitl arbennig mewn stoc neu os bydd arnoch angen mwy o gopïau, fe allwn eu cael fel arfer drwy’r rhwydwaith cenedlaethol o fenthyciadau rhyng-lyfrgell.

Faint mae o'n ei gostio?

  • Copïau sengl ar gyfer unigolion i astudio: am ddim
  • Copïau lluosog ar gyfer sefydliadau: £100 + TAW am gyfnod llogi o 4 mis
  • Setiau cerddorfaol: £10 am bob mis ychwanegol 

Os bydd arnoch eisiau adnewyddu unrhyw eitem ar ôl cyfnod y benthyciad cyntaf o 3 mis, yna bydd y taliadau hyn yn ddyledus eto.