Gwasanaethau digidol a gwybodaeth mewn llyfrgelloedd

BorrowBox

Fel aelod o'r llyfrgell gallwch gyrchu miloedd o Lyfrau Llafar ac eLyfrau am ddim trwy Borrowbox. Yn syml, lawrlwythwch yr ap i'ch ffôn neu dabled, neu ewch i BorrowBox (gwefan allanol) – mewngofnodwch gan ddefnyddio'ch cerdyn llyfrgell a'ch PIN.

Libby

Mae cannoedd o gylchgronau poblogaidd ar gael rwan i'w lawrlwytho a'u darllen ar unrhyw ddyfais 24/7. Bydd defnyddwyr gyda cherdyn llyfrgell yn gallu darllen cylchgronau digidol ar Libby, yr ap darllen gan Overdrive. Ymhlith y prif deitlau cewch Cara, Lingo Newydd, Comic Mellten, a llawer mwy.

I ddechrau mwynhau cylchgronau digidol, lawrlwythwch Libby neu ewch i denbighshireuk.overdrive.com (gwefan allanol).

PressReader

Mynediad am ddim i bapurau newydd a chylchgronnau o dros 120 o wledydd ar draws y byd, 24/7. Mae’r cyhoeddiadau yn destun llawn, ar ddiwrnod eu cyhoeddi ac yn edrych yn union fel y fersiwn print. Mae modd eu gweld arlein trwy borwr gwe neu trwy ap Press Reader ar ffôn neu lechen.

  1. Gosodwch yr ap Press Reader iOS neu Android o’ch siop apiau, neu ewch i www.pressreader.com (gwefan allanol)
  2. Cliciwch Sign In, dewiswch ‘Libraries and Groups’ a chwilio am Denbighshire Libraries
  3. Rhowch rif eich cerdyn llyfrgell i mewn
  4. Crewch eich cyfrif gyda’ch ebost a chyfrinair

Find My Past

Gallwch gael mynediad am ddim i Find My Past (gwefan allanol) yn eich llyfrgell leol. Mae hyn yn cynnwys cyfrifiad 1921. Find My Past yw'r lle perffaith i dyfu eich coeden deulu a datgloi straeon sy'n diffinio'ch gorffennol, yn siapio'ch presennol ac yn ysbrydoli'ch dyfodol. Sylwch mai dim ond nifer cyfyngedig o sesiynau y gallwn eu cynnig ar unrhyw un adeg.

Ancestry

Gallwch ddefnyddio Ancestry (gwefan allanol) yn rhad ac am ddim yn eich llyfrgell leol. Mae’n caniatáu i chi ddatblygu eich coeden deulu yn sydyn ac yn hawdd ac ymchwilio hanes eich teulu.

Theory Test Pro

Mae Theory Test Pro yn efelychiad realistig ar-lein o brawf theori gyrru'r Deyrnas Unedig. Mae'n cynnwys cwestiynau swyddogol, deunydd fideo ar ganfod perygl a fersiwn ar-lein o Reolau'r Ffordd Fawr. Gallwch ddefnyddio Theory Test Pro yn rhad ac am ddim fel aelod o’r llyfrgell.

Cliciwch yma i ddefnyddio Theory Test Pro (gwefan allanol) 

Mynediad at Ymchwil

Mae Mynediad i Ymchwil (gwefan allanol) yn rhoi mynediad am ddim i dros 15 miliwn o erthyglau academaidd yn eich llyfrgell leol. Gall myfyrwyr ac ymchwilwyr annibynnol nawr gael mynediad at lawer o bapurau academaidd gorau’r byd gan gyhoeddwyr blaenllaw sydd wedi rhyddhau cynnwys eu cyfnodolion am ddim.

Cymorth i fynd ar-lein

Mae ein staff ar gael i’ch cynorthwyo chi â chael mynediad at y byd digidol drwy eich llyfrgell leol. Gallwn eich helpu chi â chael mynediad at wasanaethau’r cyngor a gwasanaethau eraill ar-lein, fel bod gwneud ymholiadau a thaliadau, a chanfod gwybodaeth yn fwy syml. Os ydych yn chwilio am gyfle dysgu sy’n fwy ffurfiol, rydym yn cynnig nifer o gyrsiau sgiliau cyfrifiadurol sylfaenol sy’n cael eu cynnal gan Goleg Llandrillo.

Gwasanaeth Benthyciadau Tabledi a Chromebook

Os ydych am wella eich sgiliau digidol gallwch nawr fenthyg llechen neu lyfr crôm o'ch llyfrgell leol. Gallwch fenthyg dyfais am 6 wythnos a’i ddefnyddio i gael mynediad i gyrsiau ar-lein, pori’r rhyngrwyd, teipio CV, neu roi cynnig ar ein dewis eang o eLyfrau, llyfrau sain, cylchgronau digidol a phapurau newydd. Cysylltwch â'ch llyfrgell leol am ragor o wybodaeth.

Mynediad at gyfrifiaduron a'r rhyngrwyd

Fel aelod o lyfrgelloedd Sir Ddinbych, mae gennych fynediad am ddim at gyfrifiaduron a’r rhyngrwyd yn cynnwys Wi-Fi. Mae mynediad yn rhad ac am ddim a’r unig beth sydd ei angen arnoch yw rhif eich cerdyn llyfrgell a'r rhif PIN.

Os ydych chi dan 11 mlwydd oed, bydd angen i chi fod ag oedolyn efo chi. Os ydych chi rhwng 11 a 14 mlwydd oed bydd arnoch angen caniatâd gan riant neu ofalwr. Bydd y staff yn y llyfrgell yn gallu rhoi ffurflen i chi er mwyn i’ch rhiant neu eich gofalwr ei llofnodi.

Gallwch archebu cyfrifiadur hyd at wythnos ymlaen llaw – ffoniwch eich llyfrgell leol i wneud hyn.

Mae gennym Ofodau Digidol Unigol ar gael i’w archebu os ydych angen ymuno gyda chyfarfod neu ddigwyddiad arlein. Ffoniwch eich llyfrgell leol i wneud apwyntiad.

Argraffu cwmwl ac archebu cyfrifiadur

Gall aelodau'r llyfrgell nawr ddefnyddio gwasanaeth argraffu cwmwl ac archebu amser ar gyfrifiadur llyfrgell ar-lein.

Mae'r Gwasanaeth Argraffu Cwmwl yn eich galluogi i anfon dogfennau i'w hargraffu o'ch ffôn, llechen neu liniadur heb fod angen bod yn y llyfrgell. Yna bydd y dogfennau ar gael i chi eu casglu o unrhyw un o’n llyfrgelloedd, am hyd at 24 awr. Bydd eich dogfennau'n cael eu prosesu'n ddiogel ac ni fyddant yn cael eu hargraffu nes i chi ymweld â'r llyfrgell a gofyn iddynt gael eu rhyddhau.

  • Mae A4 yn costio 20c y dudalen ar gyfer du a gwyn, 60c am liw.
  • Mae A3 yn costio 40c am ddu a gwyn, £1.20 am liw.

I gael mynediad i'r gwasanaeth hwn ewch i system archebu cyfrifiadur ac argraffu cwmwl llyfrgelloedd (gwefan allanol) a mewngofnodwch gyda'ch cerdyn llyfrgell a'ch PIN. Os nad ydych eisoes yn aelod o’r llyfrgell mae’n gyflym ac yn hawdd ymuno ar-lein (gwefan allanol), neu ewch i’ch llyfrgell leol.

Meddalwedd llyfrgelloedd

Gallwch gael mynediad at amrywiaeth eang o feddalwedd ar gyfrifiaduron llyfrgelloedd, yn cynnwys:

  • Rhaglenni Microsoft Office (Word, Powerpoint, Publisher, Excel)
  • Darllenydd PDF Adobe
  • Boardmaker
  • Cysill a Cysgeir

Argraffu, sganio a llungopïo

Gallwch argraffu, sganio a llungopïo ym mhob llyfrgell. Codir tâl bychan am yr argraffiadau a’r copïau yr ydych yn eu gwneud.

Gweler y rhestr brisiau am fwy o fanylion.