Cadeiriau olwyn i'w defnyddio ar draeth a mynediad i draeth
Cadeiriau olwyn i'w defnyddio ar draeth
Mae gan Gyngor Sir Ddinbych ddwy gadair olwyn i'w defnyddio ar draeth sydd ar gael i'w llogi.
Defnyddir y cadeiriau olwyn i helpu pobl gydag anawsterau symudedd ac anableddau corfforol i gael mynediad at Draeth y Rhyl.
Bydd angen cymorth ffrind, aelod o'r teulu neu weithiwr cefnogi ar ddefnyddwyr y cadeiriau.
O le gellir llogi’r cadeiriau olwyn hyn?
Mae dwy gadair olwyn yn weithredol ar hyn o bryd, a gellir eu llogi o:
Kite Surf Cafe, Parêd y Dwyrain, y Rhyl, LL18 3AF (gwefan allanol)
Pryd gellir llogi'r cadeiriau olwyn?
Gellir llogi'r cadeiriau olwyn yn unol ag oriau agor Kite Surf Cafe. Ffoniwch ymlaen llaw i archebu.
Pa fath o gadeiriau olwyn sydd ar gael?
Mae'r ddwy gadair olwyn yn rhai Landeez All-Terrain.

Bydd angen cymorth ffrind, aelod o’r teulu neu weithiwr cefnogi ar ddefnyddwyr yr holl gadeiriau.
Nid yw'r cadeiriau yn cynnwys strapiau, clustogau na harneisiau. Os oes angen unrhyw rai o'r ategolion hyn, sicrhewch eich bod yn dod â nhw gyda chi.
Sut allai i archebu cadair olwyn?
Er mwyn archebu Cadair Olwyn i'w Defnyddio ar Draeth o Kite Surf Cafe ewch i, neu cysylltwch â Kite Surf Cafe (gwefan allanol) sy'n rheoli'r Gadair Olwyn i'w Defnyddio ar Draeth ar ran y Cyngor.
A fydd fy nghadair olwyn fy hun yn cael ei storio'n ddiogel?
Bydd. Bydd eich cadair olwyn yn cael ei gadw’n ddiogel yn adeilad Kite Surf Cafe nes y byddwch yn dychwelyd y gadair olwyn i’w defnyddio ar draeth.
A oes rhif cyswllt argyfwng os oes rhywbeth yn mynd o’i le?
Cysylltwch â Kite Surf Cafe os oes unrhyw beth yn digwydd i’r gadair olwyn. Ar gyfer argyfwng ar y traeth, ffoniwch 999 a gofynnwch am Wylwyr y Glannau.
A oes unrhyw hyfforddiant sydd angen i mi ei gwblhau cyn y gallaf logi a defnyddio un o’r cadeiriau olwyn?
Nid oes angen hyfforddiant penodol arnoch er mwyn defnyddio’r cadeiriau olwyn. Mae’n rhaid cael oedolyn cymwys i wthio’r gadair, ac mae’n rhaid i chi ddod â’r ategolion angenrheidiol i gyd-fynd â’ch anghenion.
Mynediad at y Traeth: Y Rhyl
Mae mynediad cadeiriau olwyn i'r traeth wedi'i leoli i'r dwyrain o Orsaf y Bad Achub (gwefan allanol) (ger Kite Surf Cafe (gwefan allanol)).