Ffioedd Marine Lake

Trwyddedau Dydd

Trwydded i gwch neu long ddefnyddio Marine Lake yn ystod sesiwn wedi'i amserlennu, am un diwrnod yn unig. Trwydded Diwrnod £10.

Trwyddedau Tymhorol

Trwydded i gwch neu long ddefnyddio Marine Lake yn ystod sesiwn wedi'i amserlennu, am y tymor cyfatebol.

  • Trwydded Haf (Ebrill hyd at Hydref): £75
  • Trwydded Aeaf (Tachwedd hyd at Ionawr): £30

Trwydded Flynyddol: Di-bŵer yn Unig

Trwydded i gwch di-bŵer ddefnyddio Marine Lake yn ystod sesiwn wedi'i amserlennu, am dymor yr haf a thymor y gaeaf.

Trwydded Flynyddol £90 (cychod ychwanegol, pris ar gais).

Cychod Clybiau

Tâl blynyddol, ar gyfer clybiau sy'n gweithredu o’r Marine Lake, sy'n cynnwys nifer benodol o gychod.

Taliadau: Cychod clybiau
Nifer y cychodTâl blynyddol
Cychod Hyfforddi Clwb 1-15 o Gychod £275 y clwb
Cychod Hyfforddi Clwb 16-20 o Gychod £325 y clwb
Cychod Hyfforddi Clwb 21-25 o Gychod £375 y clwb
Cychod Hyfforddi Clwb 26-30 o Gychod £425 y clwb
Cychod Hyfforddi Clwb 31+ o Gychod £500 y clwb

Sesiwn Profi Cwch 30 munud

Ar gyfer unigolion sydd wedi gwneud gwaith atgyweirio i’w cwch neu injan, ac sy’n dymuno cael sesiwn 30 munud ar y Llyn (15 munud o Lansio ac Adfer, 15 munud o amser ar y dŵr), i brofi addasrwydd eu cwch, heb lansio i'r môr. Rhaid i unigolion fod ag yswiriant atebolrwydd cyhoeddus.

Profi Cwch: £25 (trwy apwyntiad).

Cyfradd Fasnachol

Cyfraddau fesul awr a fesul diwrnod, ar gyfer busnesau, mentrau masnachol a darparwyr gweithgareddau, sy'n codi ffi ar y cwsmeriaid.

Mae gweithgareddau megis diwrnodau corfforaethol, sesiynau hyfforddiant unigol neu grŵp, wedi'u cynnwys yn y gyfradd hon.

Nid oes angen prynu trwydded unigol ar gyfer pob un ond rhaid cyflwyno Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus (isafswm o £5 miliwn), asesiadau risg; yn ogystal â gweithdrefnau gweithredu a chynlluniau gweithredu mewn argyfwng, o leiaf bythefnos cyn y sesiwn gyntaf.

  • Cyfradd yr Awr wedi ei Amserlennu 1-5 o bobl: £15
  • Cyfradd Gyfyngedig fesul Awr: £60
  • Diwrnod Llawn Cyfyngedig: £550

Rydym hefyd yn cynnig ffi fesul pen ar gyfer gweithredwyr masnachol, cysylltwch â ni am wybodaeth bellach a sgwrs anffurfiol.

Rhaid archebu a chytuno ar sesiynau o flaen llaw.

Angori Clwb / Gweithredwr Masnachol

£50 y cwch/llong.