Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol: Hyfforddiant ac adnoddau gofalwyr a gofalwyr ifanc

Lansio cronfa newydd i gefnogi gofalwyr di-dâl yng Nghymru yn ystod yr argyfwng costau byw

Bydd gofalwyr di-dâl yng Nghymru yn elwa o gynllun cymorth i’w helpu i brynu eitemau hanfodol sylfaenol yn ystod yr argyfwng costau byw.

Bydd modd i ofalwyr, sy’n darparu gofal i oedolyn neu blentyn anabl, ymgeisio am grantiau o hyd at £300 i dalu am fwyd, eitemau’r cartref ac eitemau electronig.

Bydd gwasanaethau cymorth, megis cwnsela, cyngor ariannol, lles a chymorth gan gymheiriaid ar gael hefyd.

Mae’n rhan o fuddsoddiad Llywodraeth Cymru o £4.5 miliwn i’r Gronfa Cefnogi Gofalwyr dros y tair blynedd ariannol nesaf, taliad o £1.5 miliwn bob blwyddyn.

Taliad Cefnogaeth i Ofalwyr Di-dâl

Gofalwr yw rhywun sy’n darparu neu’n bwriadu darparu gofal ar gyfer oedolyn neu blentyn anabl.

Mae dros chwe miliwn o ofalwyr yn y DU sydd oll yn gwneud cyfraniad hanfodol. Mae gennym adnoddau sy’n darparu gwybodaeth a chyngor ar gyfer y rhai sy’n cefnogi Gofalwyr ac ar gyfer Gofalwyr sy’n edrych ar ôl rhywun.

Gallwch ddod o hyd i ystod eang o wybodaeth os ydych yn ofalwr ar ein gwefan.

Hyfforddiant ar gyfer gofalwyr a gofalwyr ifanc

Mae amrywiaeth o hyfforddiant ar gael ar gyfer Gofalwyr i’ch helpu yn eich rôl gofalu, megis sesiynau hyfforddiant sgiliau ymarferol a sesiynau datblygiad personol.

Mae sesiynau hefyd ar gael ar hawliau Gofalwyr a chymorth a chefnogaeth os ydych yn newydd i ofalu a heb dderbyn cymorth yn flaenorol.

Rydym yn cynnig cyrsiau yn arbennig ar gyfer Gofalwyr a Gofalwyr Ifanc sy’n byw neu’n cefnogi rhywun o fewn Sir Ddinbych. I gael rhagor o wybodaeth am yr hyfforddiant sydd ar gael, anfonwch e-bost atom ni ar scwdp@denbighshire.gov.uk.

Yn ogystal â hynny, mae rhai colegau yn cynnal cyrsiau yn arbennig ar gyfer Gofalwyr. Cynhelir y cyrsiau hyn mewn amgylcheddau anffurfiol a chyfeillgar megis eich llyfrgell lleol ac maent yn cynnwys cyrsiau megis cyfrifiadura a gwella eich sgiliau digidol, sgiliau adeiladu hyder, lles ac Iaith Arwyddion Prydain.

Hyfforddiant symud a thrin ar gyfer Gofalwyr

Os ydych yn gorfod codi’r unigolyn rydych yn gofalu amdanynt yn rheolaidd, neu eu helpu i symud o gwmpas, e.e. mewn ac allan o’r car, y gwely neu’r ystafell ymolchi, gall hyn roi straen ychwanegol ar eich cefn.

Mae’n hanfodol eich bod yn gwybod am symud a thrin diogel fel nad ydych yn anafu eich hun neu’r unigolyn yr ydych yn gofalu amdanynt. Yr anafiadau mwyaf cyffredin mae gofalwyr yn eu profi yw anafiadau cefn. Gall anafu eich cefn gyfyngu ar symudiad a’ch gallu i ofalu am rhywun. Gall gymryd amser hir i chi adfer. Gall godi rhywun yn anghywir hefyd ddifrodi croen bregus, achosi anafiadau i’r ysgwydd a’r gwddf, cynyddu anawsterau anadlu presennol, neu achosi briwiau neu doriadau.

Os ydych yn codi neu symud rhywun yn rheolaidd, mae’n werth cael hyfforddiant neu gael rhywun i ddangos y technegau cywir i chi. Rydym yn cynnig hyfforddiant codi a symud yn fyw diogel i leihau’r risg o anafu eich cefn. Dylai eich sefydliad Gofalwyr lleol allu dweud wrthych chi am y cyfleoedd hyfforddi hefyd. Fel arall, gall eich therapydd galwedigaethol neu nyrs ardal ddangos i chi’r ffyrdd i codi a symud yn fwy diogel.

Mae Backcare (gwefan allanol), yr elusen ar gyfer cefnau mwy iach, yn darparu gwybodaeth am yr achosion, triniaeth a rheolaeth poen cefn.

Mae Backcare hefyd wedi cyhoeddi Canllaw i Ofalwyr ar symud a thrin cleifion (gwefan allanol).

Backcare,
16 Elmtree Road,
Teddington,
Middlesex,
TW11 8ST.

Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Gofalwyr Gorfodol

Rhaid i holl staff Cyngor Sir Ddinbych gwblhau hyfforddiant Ymwybyddiaeth Gofalwyr, a gaiff ei ddarparu ar-lein ac sy’n cymryd oddeutu 45 munud i’w gwblhau. Mae’r cwrs ar gael trwy E-Ddysgu ac mae’n cynnwys:

  • Pwy sy’n Ofalwr
  • Beth yw eu hawliau
  • Pa gymorth sydd ar gael yn Sir Ddinbych a lle i ddod o hyd i ragor o wybodaeth

Gwybodaeth ac adnoddau ar-lein ar gyfer Gofalwyr a Gofalwyr Ifanc