Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol: Recriwtio a Chadw

Porth Cyflogwr Gofalwn

Mae porth cyflogwr Gofalwn bellach yn fyw!

Cyflogwyr: Rydym wedi'i gwneud yn haws i chi gyhoeddi a rheoli eich swyddi gwag mewn un lle, ynghyd â'ch rhestr o ymgeiswyr.

Ymwelwch â’n tudalen Cyflwyno Swydd (gwefan allanol) i greu proffil – mae’n cymryd llai na munud. Unwaith y caiff ei gymeradwyo, gallwch gyflwyno eich swydd gwag am ddim ar unwaith, gyda chlic ar y botwm. O’ch dangosfwrdd, gallwch reoli nifer o swyddi gwag. Maent yn hawdd i’w golygu, a gallwch ddyblygu eich hysbysebion swyddi a golygu’r manylion er mwyn arbed amser wrth recriwtio am swyddi tebyg.

Gwyliwch ein fideo byr (gwefan allanol) i’ch helpu i ddeall sut i ddefnyddio’r Porth Cyflogwyr.

Gallwch archebu ar-lein i fynychu gweminar (gwefan allanol) i ddysgu mwy am y Porth.

Ar hyn o bryd mae’r Sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru angen oddeutu 2,000 o bobl ychwanegol bob blwyddyn i weithio mewn Gofal er mwyn sicrhau bod pawb yn derbyn y gwasanaeth maent ei angen.

Dyma adnoddau ar-lein i helpu recriwtio a chadw staff ar gyfer eich sefydliad.

Gofalwn Cymru

Mae Gofalwn Cymru yn ymgyrch cenedlaethol a arweinir gan Ofal Cymdeithasol Cymru sy’n anelu i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant a denu mwy o bobl gyda’r sgiliau a’r gwerthoedd cywir i weithio mewn rolau gofalu gyda phlant ac oedolion.

Mae Gofalwn Cymru yn darparu porth ar-lein i gyflwyno swyddi gwag, straeon gan bobl sy’n gweithio mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar draws Cymru er mwyn eu defnyddio yn eich ymgyrchoedd recriwtio eich hunain, yn ogystal â phecyn gwaith budd-ddeiliaid sy’n cynnwys deunyddiau marchnata defnyddiol.

Gofalwn Cymru (gwefan allanol).

Prentisiaethau

Gall recriwtio prentis eich helpu i ehangu eich gweithlu a’r sylfaen sgiliau. Mae cefnogaeth ar gael tuag at gostau hyfforddi ac asesiadau.

Byddwch yn gweithio gyda darparwr hyfforddiant sydd wedi’i gymeradwyo, a fydd yn rheoli rhaglen hyfforddi ac asesu’r prentis.

Llywodraeth Cymru: Prentisiaethau (gwefan allanol).