Gwella gofal ac ymwybyddiaeth o ddementia

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn cwmpasu Gogledd Cymru gyfan ac mae'n agored i sylwadau ac awgrymiadau gan bobl sy'n byw gyda dementia, eu gofalwyr ac aelodau o'r teulu ynghylch gwelliannau parhaus i'r gwasanaethau a gynigir.

Mae'r Tîm Profiad Cleifion a Gofalwyr yn casglu barn defnyddwyr gwasanaeth fel y gallant ddeall yn iawn beth sy'n bwysig, yn enwedig pan fydd pobl ar eu mwyaf diamddiffyn. Gyda'ch caniatâd, byddant wedyn yn rhannu adborth gyda staff.

Cysylltwch â'r Tîm Profiad Cleifion a Gofalwyr:

Gallwch gael gwybod am stori un teulu yma:

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: gwella gofal ac ymwybyddiaeth o ddementia (gwefan allanol).

Ymgyrch John

Cafodd Dr John Gerrard ddiagnosis o glefyd Alzheimer yng nghanol ei saithdegau. Ddechrau Mis Chwefror 2014, yn 86 oed, aeth i'r ysbyty ac roedd yno am bum wythnos. Aeth John i'r ysbyty yn gryf, yn gallu symud, yn gwenu, yn gallu adrodd straeon am ei orffennol, yn gallu gweithio yn ei ardd a helpu gyda phethau o amgylch y tŷ. Roedd yn gallu bwydo ei hun, mynd i'r toiled, cadw'n lân, ac efo bywyd beunyddiol o safon da. Daeth allan yn ysgerbydol, anymataliol, yn methu symud, ac yn annealladwy. Roedd angen gofal 24 awr arno a phrin ei fod yn adnabod y rhai o'i amgylch. Roedd yn gwisgo padiau anymataliaeth, ni allai sefyll na cherdded, ni allai godi mwg i'w geg na rhoi geiriau mewn brawddeg.

Mae ei deulu'n teimlo'n sicr, pe na bai wedi gorwedd am bum wythnos heb weld y bobl yr oedd yn eu haddnabod yn gofalu amdano a'i gysuro, ni fyddai wedi mynd i gyflwr mor analluog. Roedd y nyrsys a'r meddygon unigol yn garedig, yn gydwybodol, yn barchus, ond ni allent eistedd a siarad ag ef, darllen ag ef, gwneud yn siŵr ei fod yn bwyta, ei gadw mewn cysylltiad â'r byd.

Bu farw John Gerrard ym mis Tachwedd 2014. Ond mae cannoedd o filoedd o gleifion â dementia a fydd yn cael yr un profiad brawychus a dryslyd oni wneir newid. Mae cannoedd o filoedd o deuluoedd a fydd yn cael eu hatal rhag cefnogi eu hanwyliaid yn eu cyfnod o angen. Ac eto, yr un teuluoedd a gofalwyr a fydd yn cael trafferth gyda phroblemau adsefydlu ar ôl cyfnod yn yr ysbyty. Gallwch gysylltu ag Ymgyrch John drwy eu tudalen Facebook (gwefan allanol) neu fanylion cyswllt eraill ar wefan Ymgyrch John (gwefan allanol).

O ganlyniad i'r ymgyrch hon, dylai ysbytai nawr ganiatáu i deuluoedd / ffrindiau / gofalwyr gynorthwyo eu hanwyliaid gyda gweithgareddau, hyd yn oed amser bwyd â chymorth os oes gan y claf ddiagnosis o ddementia - oni bai bod risgiau hyn yn gorbwyso'r buddion fel, yn anffodus, yn aml yr achos oherwydd cyfyngiadau Covid.