Eiriolaeth

Gall gwasanaethau eirioli helpu preswylwyr a fyddai fel arall yn cael trafferth i:

  • Gael mynediad i wybodaeth a gwasanaethau
  • Cymryd rhan mewn penderfyniadau am eu bywydau
  • Archwilio dewisiadau ac opsiynau
  • Amddiffyn a hyrwyddo eu hawliau a'u cyfrifoldebau
  • Siarad am faterion sydd o bwys iddynt

Beth yw eiriolaeth?

Gall eiriolaeth ddod mewn sawl ffurf wahanol megis:

Hunan-eiriolaeth: Pan fydd unigolion yn cynrychioli ac yn siarad drostynt eu hunain.

Eiriolaeth Anffurfiol: Pan fydd teulu, ffrindiau neu gymdogion yn cefnogi unigolyn wrth sicrhau bod eu dymuniadau a'u teimladau yn cael eu clywed, a allai gynnwys siarad ar eu rhan.

Eiriolaeth ar y Cyd: Yn cynnwys grwpiau o unigolion gyda phrofiadau cyffredin.

Eiriolaeth gan gymheiriaid: Un unigolyn sy'n gweithredu fel eiriolwr ar gyfer un arall sy'n rhannu profiad cyffredin neu gefndir.

Eiriolaeth dinasyddion: Mae'n golygu partneriaeth tymor hir un-i-un rhwng eiriolwr dinesydd gwirfoddol hyfforddedig neu wedi ei gefnogi, ac unigolyn.

Eiriolaeth gwirfoddolwyr annibynnol: Mae’n golygu eiriolwr annibynnol a di-dâl sy'n gweithio ar sail tymor byr, neu sail a arweinir gan faterion, gydag un neu fwy o unigolion.

Eiriolaeth ffurfiol: Gallai gyfeirio at rôl eiriolaeth staff mewn lleoliadau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a lleoliadau eraill lle mae angen i weithwyr proffesiynol fel rhan o'u rôl ystyried dymuniadau pobl.

Eiriolaeth broffesiynol annibynnol: Gweithiwr proffesiynol sydd wedi'i hyfforddi a'i dalu i ymgymryd â'i rôl broffesiynol fel eiriolwr.

Gwasanaethau eiriolaeth

Rydym yn ariannu nifer o wasanaethau eiriolaeth er mwyn helpu ein preswylwyr i gael y gefnogaeth gywir pe bai ei hangen arnynt. Gall ein gweithwyr gofal cymdeithasol hyfforddedig eich cynorthwyo i ddod o hyd i'r gwasanaeth eiriolaeth cywir ar gyfer eich sefyllfa.

Eiriolaeth i plant a phobl ifanc

Mae Tros Gynnal Plant (gwefan allanol) yn cynnig gwasanaeth eiriolaeth proffesiynol ac annibynnol i plant a phobl ifanc sy’n ‘Derbyn Gofal’ neu ‘Sydd Angen Gofal a Chymorth’ yng Ngogledd Cymru.

Mae rhai gwasanaethau eiriolaeth yn helpu pobl gyda chyflwr penodol a gall manylion am y gwasanaethau hyn gael eu darparu gan ein Tîm Pwynt Mynediad Sengl.

Eiriolaeth a galluedd meddyliol

Cyflwynodd Deddf Galluedd Meddyliol 2005 Eiriolwyr Galluedd Meddyliol Annibynnol (EGMA). Mae EGMA yn cefnogi pobl sy'n methu gwneud na deall penderfyniadau trwy ddatgan eu barn a'u dymuniadau neu sicrhau eu hawliau.

Mae hwn yn wasanaeth eiriolaeth statudol, sy'n golygu mewn rhai sefyllfaoedd bod rhaid i ddinasyddion sydd heb allu, gael eu cyfeirio at eiriolwr.

Nid EGMA yw'r penderfynwr, ond mae gan y sawl sy'n gwneud penderfyniadau ddyletswydd i gymryd i ystyriaeth y wybodaeth a roddwyd gan yr EAGM.

Mae'r gwasanaeth EGMA yn anelu at helpu pobl sy’n arbennig o ddiamddiffyn nad oes ganddynt fel arall deulu neu ffrindiau i ymgynghori am y penderfyniadau hynny

Mae EGMAau yn bobl annibynnol sy'n gweithio gyda ac yn cefnogi dinasyddion sydd heb allu, ac yn cynrychioli eu barn i'r rhai sy'n gweithio ar sicrhau’r budd gorau iddynt.

Sut i gael cymorth

Os ydych yn credu y gallech chi neu rywun rydych yn ei adnabod elwa ar y cymorth hwn wrth gael mynediad i Ofal Cymdeithasol i Oedolion, cysylltwch â ni.