Gwasanaethau wedi eu cydlynu i gefnogi annibyniaeth fwyaf.
Mae Un Pwynt Mynediad yn 'ddrws ffrynt i wasanaethau' er mwyn sicrhau'ch bod yn derbyn y Gofal Cywir, yn y Man Cywir gan y bobl sydd â'r sgiliau cywir ar yr amser cywir, y tro cyntaf.
Gwasanaethau wedi’u symleiddio ar draws gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymunedol.
Rydym yn ymroddedig i roi mwy o ddewis a rheolaeth i bobl dros eu bywydau i'w galluogi i fyw mor annibynnol ag sy'n bosibl:
- Hyrwyddo gwasanaethau cymunedol ataliol
- Annog dull gweithio cytbwys i asesu anghenion
- Sicrhau fod dinasyddion yn ganolbwynt i sgyrsiau a phenderfyniadau
- Canolbwyntio ar gryfderau'r unigolyn er mwyn ei gynorthwyo i gadw ei annibyniaeth
- Gwella cysylltiadau rhwng pobl a'u cymunedau
- Ymatebion cynt i anghenion gofal a chymorth pobl