Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)

Daeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) i rym ym mis Ebrill 2016. Mae'r gyfraith yn rhoi llais i chi yn y gofal a'r gefnogaeth a gewch.

Er mwyn eich cefnogi chi i gyflawni lles, byddwch yn gwneud penderfyniadau am eich gofal mewn partneriaeth â gweithwyr proffesiynol. I’ch helpu i wneud hynny, mae gennych fynediad hawdd at wybodaeth a chyngor ynglŷn â beth sydd ar gael yn eich ardal.

Mae gan Ofalwyr â’r un hawl i gael asesiad ar gyfer cymorth, ar gyfer y rhai maent yn gofalu amdanynt, a bydd mwy o bobl â’r hawl i gael Taliadau Uniongyrchol.

Bydd proses asesu ar gyfer gofal a chymorth yn seiliedig ar yr hyn sy'n bwysig i unigolion a bydd yn cael ei chynnal gan ein Tîm Un Pwynt Mynediad. . Bydd cynghorydd yn y tîm yn cael sgwrs gyda chi am eich cryfderau personol a'r cymorth sydd ar gael i chi oddi wrth eich teulu, ffrindiau a phobl eraill yn y gymuned.

Un Pwynt Mynediad i oedolion yn Sir Ddinbych (PDF, 292KB)

Bydd yr asesiad yn symlach ac yn cael ei wneud gan un person ar ran amrywiaeth o sefydliadau.

Erbyn hyn mae mwy o wasanaethau i atal problemau rhag gwaethygu, felly mae'r cymorth priodol ar gael pan fyddwch ei angen.

Mae pwerau cryfach i gadw pobl yn ddiogel rhag camdriniaeth neu esgeulustod hefyd wedi eu cyflwyno.

Beth mae'r Ddeddf yn ei wneud?

Mae’r Ddeddf wedi trawsnewid y ffordd y caiff gwasanaethau cymdeithasol eu darparu.

Bydd integreiddio a symleiddio'r gyfraith hefyd yn darparu mwy o gysondeb ac eglurder i:

  • bobl sy’n defnyddio gwasanaethau cymdeithasol;
  • eu gofalwyr;
  • staff awdurdodau lleol a'u sefydliadau partner
  • y llysoedd a'r farnwriaeth.

Mae'r Ddeddf yn hyrwyddo cydraddoldeb, yn gwella ansawdd y gwasanaethau a gwella mynediad i’r wybodaeth y mae pobl yn ei chael. Mae hefyd yn annog ffocws o'r newydd o ran atal ac ymyrryd yn gynnar.

Gallwch gael gwybod mwy am y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) ar y wefan Deddfwriaeth (gwefan allanol).

Fideo Gofal Cymdeithasol Cymru: "Mae'r hyn sy'n bwysig i chi yn bwysig i ni, hefyd" (gwefan allanol).