Pwyntiau Siarad

Mae Pwyntiau Siarad yn ffordd i bobl ddarganfod pa gymorth a chefnogaeth sydd ar gael i wella eu hiechyd a’u lles yn eu hardal leol.

Mae Pwyntiau Siarad yn darparu:

  • gwybodaeth am beth sydd ar gael mewn ardal, fel gwasanaethau cymunedol, gweithgareddau neu grwpiau cefnogi
  • sgwrs wyneb i wyneb gyda Llywiwr Cymunedol am beth sy’n bwysig i chi
  • cyfle i rannu eich gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau i wella lles pobl eraill yn eich cymuned

Lle mae Pwyntiau Siarad yn cael eu cynnal?

Mae Pwyntiau Siarad yn cael eu cynnal yn llyfrgelloedd ar draws Sir Ddinbych.

Dod o hyd i Bwynt Siarad (gwefan allanol)

Sut i gymryd rhan

Nid oes angen i chi drefnu apwyntiad i fynd i Bwynt Siarad, gallwch fynd i unrhyw un sy’n cael ei gynnal. Fodd bynnag, mae’n bosibl trefnu apwyntiad, a fydd yn ein helpu i sicrhau bod y bobl gywir ar gael i ddarparu’r wybodaeth, cyngor neu gymorth gorau i chi 

Gallwch drefnu apwyntiad trwy gysylltu â’r Un Pwynt Mynediad.

Gwirfoddoli i helpu mewn Pwynt Siarad

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli i helpu pobl mewn Pwynt Siarad, cysylltwch â’r Un Pwynt Mynediad neu Lywiwr Cymunedol mewn Pwynt Siarad a all drafod beth sydd gennych ddiddordeb mewn helpu ag ef.

Os bydd hi’n addas, byddwn ni’n darparu rhagor o fanylion i chi, ffurflen gais gwirfoddoli a llawlyfr gwirfoddoli.

Mwy o wybodaeth

Darperir y gwasanaeth hwn mewn partneriaeth rhwng Cyngor Sir Ddinbych a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.