Plant sy'n derbyn gofal

Golyga ‘plant sy’n derbyn gofal’ blant sydd dan 18 ac y mae’r awdurdod lleol, neu rywun ar wahân i’w rhieni, yn gofalu amdanyn nhw. Mae hyn yn cynnwys plant sy’n derbyn gofal gan berthnasau, gofalwyr maeth a chartrefi plant preswyl.

Sut fydd plant yn dod yn 'blant sy'n derbyn gofal'?

Bydd nifer fawr o blant sy’n dod i gael gofal â hanes o gam-drin corfforol, rhywiol neu emosiynol. Fe all rhai fod wedi dioddef marwolaeth rhiant neu â rhieni sy’n methu â gofalu amdanyn nhw’n briodol oherwydd salwch.

Daw plant i’n gofal fel arfer drwy un o ddau ddull: 

  • oherwydd bod y rhieni wedi gofyn am yr help hwn: pan fydd rhieni wedi gofyn am ein help, oherwydd na all eu plentyn aros gartref bellach am ryw reswm, fe ffeindiwn ni lety addas ar gyfer y plentyn. Bydd cyfrifoldeb rhieniol yn aros efo’r rhiant neu’r gwarcheidwad.
  • oherwydd bod y plentyn mewn perygl o niwed: os bydd y plentyn mewn perygl o gael ei niweidio, fe wnaiff y llys orchymyn gofal. Fe wnaiff y llys ystyried yr amgylchiadau i gyd yn ofalus cyn gwneud hynny. Pan wneir gorchymyn gofal, bydd y cyngor yn cymryd cyfrifoldeb rhieniol, ac yn dod yn rhiant cyfreithiol ochr yn ochr â rhiant neu warcheidwad y plentyn.

Beth fydd yn digwydd pan eir â phlentyn i dderbyn gofal?

Fe aseswn ni’r plentyn a’i amgylchiadau, a chytuno ar drefniadau gofal efo’r plentyn (os gall y plentyn ddeall) a’i deulu. Gall y trefniadau hyn gynnwys cynllun ar gyfer y broses o ddychwelyd y plentyn i’r cartref teuluol.

Fe fynegir trefniadau gofal mewn dwy ddogfen: 

  • Cynllun gofal:  bydd hwn yn disgrifio sut y caiff iechyd, addysg a lles y plentyn eu cynorthwyo, ynghyd â sut i gynnal cysylltiad â theulu a ffrindiau 
  • Cytundeb lleoliad:  bydd hwn yn delio â threfniadau byw, yn cynnwys teithio, ac unrhyw gyfyngiadau y gellid eu rhoi ar y plentyn.

Ym mhle mae cael cyngor?

Os ydych chi’n rhiant plentyn sy’n derbyn gofal, gallwch ddod o hyd i wybodaeth a chyngor ar Citizens Advice (gwefan allanol)ac ar GOV.UK (gwefan allanol).

Canllaw ar gyfer Plentyn/Person Ifanc sy'n Derbyn Gofal (PDF, 148KB)