Cofrestru busnes bwyd

Os ydych yn berchen ar fusnes bwyd yn Sir Ddinbych, neu wedi cymryd busnes bwyd drosodd yn ddiweddar, mae’n rhaid i chi gofrestru eich busnes gyda’r cyngor o leiaf 28 diwrnod cyn agor neu cyn i chi gymryd perchnogaeth ohono.

Mae hyn yn cynnwys bwytai, caffis, siopau, cerbydau danfon, faniau cŵn poeth a hufen iâ a stondinau marchnad a stondinau eraill.

Efallai y bydd angen i chi wneud cais am gymeradwyaeth ar gyfer eich adeiladau bwyd hefyd os ydych yn bwriadu defnyddio cynnyrch heb ei brosesu o darddiad anifail (e.e. cig amrwd, briwgig amrwd, llefrith amrwd neu wyau amrwd).

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am gymeradwyo eiddo bwyd.

Sut ydw i’n cofrestru?

Gallwch gofrestru busnes bwyd ar-lein ar gov.uk

Cofrestru busnes bwyd ar-lein ar gov.uk (gwefan allanol)

Caiff y manylion eu hychwanegu at y gofrestr a bydd rhai manylion megis y math o fusnes, y cyfeiriad a’r rhif ffôn ar gael i’r cyhoedd eu gweld. Ni fydd unrhyw wybodaeth arall sy’n cael ei darparu ar gael yn gyhoeddus.

Unwaith y byddwch wedi cofrestru, os oes newid yn natur y busnes, cysylltwch â ni ar 01824 706405 neu food.safety@denbighshire.gov.uk i gael ffurflen gais er mwyn diweddaru eich cofrestriad.

Os nad chi sy’n berchen ar y busnes bwyd bellach rhaid i chi roi gwybod i ni er mwyn i ni ddiweddaru ein cofnodion.

Faint mae’n ei gostio?

Nid oes ffi am gofrestru eich busnes bwyd.