Cystadleuaeth Ffotograffiaeth Dolydd Blodau Gwyllt Ysgolion

Mae’r gystadleuaeth yn ôl ar gyfer 2026 o 20 Ebrill 2026 tan 14 Awst 2026.

Yn 2019, fe wnaeth Cyngor Sir Ddinbych ddatgan argyfwng hinsawdd a natur gyda’r nod o fynd i’r afael â newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth.

Un o'r camau cyntaf i ni eu cymryd oedd dechrau rheoli rhywfaint o'n glaswelltir i greu dolydd blodau gwyllt ar draws y sir. Nod y prosiect yw adfer ac ehangu'r cynefinoedd sydd ar gael yn y sir i bryfed peillio a bywyd gwyllt. Mae’r prosiect hefyd yn dod â llawer o fanteision neu “wasanaethau ecosystem” i drigolion y sir, fel llai o lifogydd, gwell ansawdd aer, ac oeri’r aer mewn gwres mawr.


Red Campion

Yr hyn sydd angen i chi ei wneud

  1. Tynnwch lun o un o'n dolydd blodau gwyllt, dôl mewn ysgol neu safle gwarchodfa natur gymunedol. Gallai fod yn llun o'r safle cyfan neu o ddarn bychan bach ohono, fel pryfyn neu flodyn – beth bynnag sy'n gwneud y llun gorau yn eich barn chi.
  2. Ysgrifennwch rywbeth am eich llun neu chwilio am ddyfyniad sy’n cyd-fynd ag o.

Gweld safleoedd dolydd blodau gwyllt yn Sir Ddinbych (Map)

Y rhai buddugol

Ar ôl y dyddiad cau (14 Awst 2026):

  • bydd rhestr fer o luniau’n cael eu dewis ac yna bydd y rhai sydd ar y rhestr fer yn cael eu beirniadu gan y Cynghorydd Barry Mellor (Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant).
  • bydd y lluniau buddugol a’r rhai sy’n cyrraedd y rhestr fer yn cael eu harddangos ar y cyfryngau cymdeithasol.
  • bydd y lluniau buddugol yn cael eu chwyddo i faint A2 i’w hargraffu a'u dangos ar y waliau y tu allan i Siambr y Cyngor yn Neuadd y Sir, Rhuthun.
  • bydd 3 enillydd, a phob un yn cael detholiad o lyfrau amgylcheddol ar gyfer eu hysgol.
  • bydd yr enillwyr yn cael gwybod erbyn 18 Medi 2026 a bydd eu henwau’n cael eu cyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol ar 24 Hydref 2026.
  • bydd yr ysgol sydd â’r nifer uchaf yn cystadlu hefyd yn ennill set o lyfrau amgylcheddol.

Bydd yr enillwyr yn cael:

  • detholiad o lyfrau amgylcheddol ar gyfer eu hysgol.
  • fersiwn llai o’r llun i’r enillydd gael ei arddangos gartref neu yn yr ysgol.

Cyngor ar dynnu lluniau

Cyngor ar gymryd lluniau ar gyfer y gystadleuaeth hon:

  • Dewch o hyd i rywle tawel i eistedd yng nghanol natur.
  • Ceisiwch fod yn llonydd fel bod yr amgylchedd o'ch cwmpas yn dod i arfer â chi yno.
  • Meddyliwch am yr hyn y gallwch ei weld, ei glywed, ei gyffwrdd a’i arogli.
  • Ar ôl bod yn llonydd am sbel ac ymdeimlo’r hyn sydd o’ch amgylch, efallai y cewch eich ysbrydoli i dynnu llun o rywbeth nad oedd yn amlwg i chi i ddechrau.
  • Dim ond un ffotograff gan bob unigolyn ydym ni’n ei ganiatáu, felly cymerwch eich amser, tynnwch ychydig o luniau a dewiswch eich ffefryn.

Cyngor ar ysgrifennu am eich llun

Gallech:

  • Roi gwybod i ni pam rydych chi'n hoffi’r dolydd, neu beth sy'n bwysig amdanynt.
  • Egluro sut mae eich llun neu fod yn y ddôl yn gwneud i chi deimlo.
  • Ddweud beth hoffech chi i eraill ei wybod am y dolydd.
  • Chwilio am ddyfyniad fyddai'n edrych yn dda gyda'ch llun neu sy’n ei ddisgrifio’n dda yn eich barn chi.

Ceisiwch gadw’r ysgrifen i un neu ddwy frawddeg gan fod angen iddi ffitio ar y llun wedi’i argraffu.

Rhaid i bob ymgais:

  • gael eu tynnu yn Sir Ddinbych.
  • gael eu tynnu ar un o safleoedd dolydd blodau gwyllt Sir Ddinbych (sydd ag arwydd Caru Gwenyn, sy’n ddôl blodau gwyllt mewn ysgol neu’n safle gwarchodfa natur gymunedol).
  • gynnwys planhigion, pryfed ac anifeiliaid gwyllt cynhenid yn unig.
  • beidio â chynnwys – unrhyw berson mae posib’ ei adnabod, bywyd gwyllt anfrodorol, anifeiliaid domestig na da byw (defaid/gwartheg ac ati).

Rheolau'r gystadleuaeth

Rheolau'r gystadleuaeth yw:

  • un llun yn unig gan bob unigolyn
  • mae'n rhaid i’r llun fod wedi ei dynnu yn Sir Ddinbych
  • bydd y gystadleuaeth ar agor o 20 Ebrill 2026 tan 14 Awst 2026
  • rhaid i’r sawl sy’n cystadlu fod rhwng 5 ac 18 oed
  • rhaid i’r sawl sy’n cystadlu fod yr un sydd wedi tynnu’r llun a rhaid i’r holl hawliau iddo fod yn eiddo i chi (gweler Hawliau o ran y lluniau).
  • rhaid i’ch llun fod wedi’i dynnu ar dir Cyngor Sir Ddinbych
  • Rhaid cyflwyno’r ceisiadau mewn fformat JPEG digidol.
  • Ni ddylai ffeiliau’r lluniau fod yn fwy na 10MB o faint (ond yn ddelfrydol yn fwy na 2MB er mwyn gallu eu chwyddo).
  • Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw sicrhau bod pob cais yn cydymffurfio â'r rheolau hyn drwy gadw'r ffeiliau heb unrhyw ddyfrnod, stensil, border na llofnod ar ffeil y llun ei hun.

Hawliau o ran y lluniau

 Gwybodaeth am hawliau delwedd:

  • Rhaid i bob delwedd fod yn eiddo unigol ac unigryw i'r Ymgeisydd, ac ni ddylai dorri hawlfraint unrhyw barti arall.
  • Bydd yr hawlfraint ar gyfer pob Delwedd yn   aros gyda pherchennog yr hawlfraint cyn ac ar ôl ei chyflwyno i’r Gystadleuaeth.
  • Bydd perchennog yr hawlfraint yn cael ei gredydu mewn unrhyw achos o gyhoeddi ar unrhyw ffurf cyfryngau (gan gynnwys print, gwe a chyfryngau cymdeithasol) gan ddefnyddio ei enw ar y fformat a ddarparwyd gan yr Ymgeisydd hwnnw wrth gyflwyno. 

Cystadlu

Gellir cyflwyno eich lluniau ar-lein ar gyfer y gystadleuaeth hon.

Rhowch Gynnig ar y Gystadleuaeth Ffotograffiaeth Dolydd Blodau Gwyllt Ysgolion ar-lein

Tudalennau cysylltiedig