Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt

Dechreuodd ein prosiect Dolydd Blodau Gwyllt yn 2019. Ei nod yw adfer ac ehangu’r cynefinoedd sydd ar gael yn y sir i bryfed peillio a bywyd gwyllt.

Rydym wedi asesu sawl safle ar gyfer eu potensial cynefin blodau gwyllt ac roedd 21 safle wedi eu dewis ar gyfer ein peilot blwyddyn gyntaf.  Mae yna nawr 129 safle dôl blodau gwyllt a reolir sy’n cyfrannu at ein huchelgeisiau cyfoeth rhywogaethau gwell (gan gynnwys 11 gwarchodfa natur ymyl ffordd).  Mae’r rhain yn cyfrannu at bron 70 erw o gynefin blodau gwyllt brodorol.

Mae hyn yn rhan o'n brosiect Cyfeillgar i Wenyn gyda'r nod o gefnogi adferiad gwenyn a phryfed peillio eraill.

Ble mae’r dolydd blodau gwyllt?

Fe ddewch chi o hyd i ddolydd blodau gwyllt yn y mannau canlynol:

  • Corwen
  • Cynwyd 
  • Dinbych
  • Dyserth
  • Henllan
  • Llanferres
  • Llangollen
  • Llanrhaeadr
  • Meliden
  • Nantglyn
  • Prestatyn
  • Pwllglas
  • Rhuddlan
  • Rhewl
  • Ruthin
  • Y Rhyl

Gweld safleoedd dolydd blodau gwyllt yn Sir Ddinbych

Sut reolir y dolydd?

Ni chaiff y glaswellt ei dorri rhwng mis Mawrth a mis Awst, heblaw am ffin o amgylch pob safle. Fel hyn gall y blodau fwrw’u hadau, sy’n golygu bod y ddôl yn cynnig y budd mwyaf posib i fywyd gwyllt. Ar ddiwedd y tymor defnyddir offer arbenigol i dorri’r ddôl, a cheir gwared â’r malurion. Bydd hynny’n helpu i wneud y pridd yn llai ffrwythlon a chreu’r ddaear isel ei faeth sydd ei angen i hybu twf ein blodau gwyllt a glaswellt brodorol.

Rydym yn plannu blodau gwyllt brodorol sydd wedi tyfu o hadau lleol neu’n hau hadau wedi’u casglu o ddolydd eraill, er mwyn hybu'r amrywiaeth o rywogaethau.

Sut olwg sydd ar ddôl blodau gwyllt?

Mae pob safle’n wahanol ond fel arfer mae ganddynt amrywiaeth o laswellt a blodau gwyllt brodorol. Rhywogaethau lluosflwydd brodorol yw’r rhan helaeth o’r blodau gwyllt yn ein dolydd yn, sy’n golygu eu bod yn blodeuo eto bob blwyddyn. Mae gan ddolydd blodau gwyllt dymor blodeuo hir, ac mae gwahanol rywogaethau’n blodeuo ar wahanol adegau o’r flwyddyn.

Nid yw dolydd blodau gwyllt yr un fath â dolydd darluniadol. Mae dolydd darluniadol yn cynnwys amrywiaeth o blanhigion ac yn aml fe’u gelwir yn ‘ddolydd blodau gwyllt’. Fel arfer mae dolydd darluniadol yn cynnwys llawer o rywogaethau anfrodorol, a dim glaswellt. Mae gan ddolydd darluniadol lai o fanteision i fioamrywiaeth ac mae angen eu cynnal a chadw’n fwy rheolaidd, sy’n waith drud.

Dolydd blodau gwyllt yn Neuadd y Sir (Rhuthun)

Mae'r delweddau canlynol yn dangos cynnydd y ddôl Blodau Gwyllt yn Neuadd y Sir (Rhuthun).

Blwyddyn 1

Dôl blodau gwyllt yn Neuadd y Sir (Rhuthun) ym mlwyddyn 1 yn dangos gwair fel y rhywogaeth gryfaf

Dôl blodau gwyllt ym mlwyddyn 1 yn dangos gwair fel y rhywogaeth gryfaf.

Blwyddyn 2

Dôl blodau gwyllt yn Neuadd y Sir (Rhuthun) ym mlwyddyn 2 yn dangos rhywogaeth blodau gwyllt brodorol megis Llygad y llo mawr, blodyn pengaled a blodyn taranau yn dechrau ymddangos.

Dôl blodau gwyllt ym mlwyddyn 2 yn dangos rhywogaeth blodau gwyllt brodorol megis Llygad y llo mawr, blodyn pengaled a blodyn taranau yn dechrau ymddangos.

Blwyddyn 3

Dôl blodau gwyllt yn Neuadd y Sir yn Rhuthun yn y 3edd flwyddyn yn dangos rhywogaeth blodau gwyllt brodorol megis Llygad y llo mawr, blodyn pengaled a blodyn taranau yn dechrau dominyddu rhywogaethau gwair.

Dôl blodau gwyllt yn y 3edd flwyddyn yn dangos rhywogaeth blodau gwyllt brodorol megis Llygad y llo mawr, blodyn pengaled a blodyn taranau yn dechrau dominyddu rhywogaethau gwair.

Mathau o flodau gwyllt

Gallwch weld llawer o wahanol flodau gwyllt brodorol (rhai a fyddai’n tyfu’n naturiol yn y mannau hyn). Bydd yr amrywiaeth yn dibynnu ar y lleoliad a’r adeg o’r flwyddyn.

Pam fod arnom angen mwy o ddolydd blodau gwyllt?

Ers y 1930au mae mwy na 97% o’r dolydd blodau gwyllt yn y Deyrnas Gyfunol wedi diflannu. Mae hynny’n fwy na 7.5 miliwn o erwau, gydag ond 1% o’n cefn gwlad erbyn hyn yn darparu cynefin hanfodol i bryfed peillio fel gloÿnnod byw a gwenyn.

Yn ei dro mae hyn wedi effeithio ar fywyd gwyllt sy’n dibynnu ar y dolydd yma ar gyfer bwyd a lloches, fel draenogod, moch daear ac ysgyfarnogod, yn ogystal ag adar fel y gornchwiglen, corhedydd y waun a’r ehedydd.

Mae cael mwy o ddolydd blodau gwyllt yn gam pwysig at atal y dirywiad a hybu amrywiaeth fwy cyfoethog o rywogaethau.

Sut gallwch chi helpu

Gallwch helpu’r prosiect blodau gwyllt drwy adael i fannau dyfu’n wyllt, fel rhan o’ch gardd eich hun. Gallai’r lawnt yn eich gardd fod yn ffynhonnell bwysig iawn o neithdar i bryfed peillio.


Carbon Literate Organisation (Bronze) logo